Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Gostyngiadau Trethi Busnes (NNDR) Welsh Assembly Small Business Rates Relief Scheme 2008

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cynulliad Cymru 2008


Summary (optional)
Crynodeb o'r rhyddhad ardrethi sydd ar gael ar gyfer busnesau bach yng Nghymru: swyddfeydd post, safleoedd gofal plant, safleoedd manwerthu, undebau credyd, y raddfa annomestig, cymorth gwladwriaethol.
start content

Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i Gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cymru 2008 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Busnesau Bach) (Cymru) 2017. Mae'r cynllun hwn yn darparu ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach i Gymru yn unol â S43 (4B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Disgrifir y Cynllun a'r newidiadau isod. Bydd y rhyddhad hwn yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i safleoedd cymwys.

Lle mae trethdalwyr yn atebol i dalu Trethi Annomestig am fwy na dau safle a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol sy'n bodloni gofynion yr amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, mae’n rhaid i’r trethdalwr roi gwybod i’r awdurdod bilio ar gyfer y rhestr honno am y safleoedd yn unol ag erthygl 13.

CategoriGwerth Trethadwy £Gostyngiad (%)
Gwerth Trethadwy 0 – 6,000 100
Gwerth Trethadwy 6,001 – 12,000 Lleihau o 100 i 0
Gofal Plant   100
Gofal Plant   Lleihau o 100 i 0
Swyddfa Bost   100
Swyddfa Bost   50

 

Eiddo Manwerthu

Bydd y categori penodol ar gyfer eiddo manwerthu yn cael ei ddileu ar 1 Ebrill 2018.

Gofal Plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newid i'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach parhaol ar gyfer adeiladau Gofal Plant Cofrestredig. O 1 Ebrill 2019, bydd yr holl ddarparwyr Gofal Plant Cofrestredig yn derbyn eithriad o 100% ar eu Trethi Busnes.

Rhyddhad Gorfodol / Dewisol

Ni fydd eiddo sy’n derbyn rhyddhad gorfodol a dewisol yn gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Cyfyngiad Dau Eiddo

O 1 Ebrill 2018 ymlaen bydd trethdalwyr ond yn gallu hawlio Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar gyfer dau eiddo (ac eithrio gofal plant a swyddfeydd post). Os yw trethdalwr yn atebol am drethi busnes mwy na dau eiddo, bydd y dyfarniad yn seiliedig ar y ddau sydd â’r gwerth tybiannol uchaf h.y. naill ai’r gwerth ardrethol (os yw’n llai na neu’n £6,001) neu swm a gyfrifir yn defnyddio’r fformiwla briodol.

Os yw trethdalwr yn atebol am ardrethi annomestig mwy na dau hereditament a ddangosir ar restr ardrethi annomestig lleol sy’n bodloni gofynion yr amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, yn unol ag erthygl 13 mae’n rhaid i’r trethdalwr rhoi gwybod am yr hereditamentau hynny i awdurdod bilio’r rhestr honno.

Cymorth Gwladwriaethol

Mae cymorth o dan y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig yn cael ei roi ar ffurf cymorth de minimis yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) rhif 1998/2006 dyddiedig 15 Rhagfyr 2006. Ar hyn o bryd, mae'r cymorth de minimis y caniateir ei roi i unrhyw sefydliad o bob ffynhonnell gyhoeddus dros gyfnod o dair blynedd yn cael ei gyfyngu i 200,000 Ewro (tua £160,000). Os ydych yn credu eich bod eisoes wedi cael mwy na'r swm hwn, neu swm sy'n agos ato, yn ystod y tair blynedd diwethaf, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol. Os ydych am wneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall sy'n cyfrif fel cymorth de minimis, neu os ydych wedi gwneud cais o'r fath, dylech ddatgan unrhyw gymorth de minimis a roddir i chi o dan y cynllun hwn.

Sylwer:   Rhaid i bob safle busnes gael ei feddiannu'n gyfan gwbl er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi.

  • Ymhlith y safleoedd nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi y mae'r rhai a nodir isod: y rhai sy'n cael eu meddiannu gan gyngor, awdurdod heddlu neu'r Goron; y rhai sy'n cael eu meddiannu gan elusennau, neu glybiau cofrestredig, neu gyrff dielw y mae eu prif amcanion yn ddyngarol, yn grefyddol neu'n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu'r celfyddydau cain; cabanau glan môr; safleoedd sy'n cael eu defnyddio'n unig ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gwaith trin carthion neu gyfarpar cyfathrebu electronig.

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019

Ynghlwm ceir dolen at Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2019, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Gorchymyn hwn yn egluro nad yw peiriannau ATM sydd wedi’u gwerthuso ar wahân yn gymwys i gael y rhyddhad, yn unol â pholisi hirdymor Llywodraeth Cymru. Daw’r Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill 2020.

The Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) (Amendment) Order 2019 (legislation.gov.uk)

Busnes Cymru

end content