Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Gostyngiadau Trethi Busnes (NNDR) Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024


Summary (optional)
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i nodau datgarboneiddio a sero net. Mae rhyddhad rhwydweithiau gwresogi wedi cael ei gyflwyno er mwyn helpu i gefnogi'r twf ym maes carbon isel y sector hwn a ragwelir dros y degawd nesaf.
start content

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i nodau datgarboneiddio a sero net. Mae rhyddhad rhwydweithiau gwresogi wedi cael ei gyflwyno er mwyn helpu i gefnogi'r twf ym maes carbon isel y sector hwn a ragwelir dros y degawd nesaf.

Mae rhwydweithiau gwresogi yn cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog i ddefnyddwyr, drwy rwydwaith o bibellau. Maent yn amrywio'n fawr o ran eu maint a'r defnydd a wneir ohonynt, o system wresogi gyffredin mewn adeilad amlfeddiannaeth i rwydweithiau annibynnol mawr sy'n darparu gwres neu bŵer i lawer o gwsmeriaid ac adeiladau ar draws ardal fawr.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad llawn (100%) ar gyfer hereditamentau annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi ac sy'n cyflenwi ynni thermol a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel. Mae'r amodau hyn yn cael eu nodi a'u diffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024,  a'u hesbonio'n fanylach yn y canllawiau hyn. Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi datblygiad a thwf y sector hwn, drwy helpu i leihau'r rhwystrau ariannol i sefydlu rhwydweithiau. Bwriedir i hyn helpu i gefnogi'r broses o symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil a datgarboneiddio gwres. Bydd y rhyddhad ar waith o 1 Ebrill 2024 ac ar gael hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2035.

Am ragor o wybodaeth gweler Ganllawiau Llywodraeth Cymru yma: Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi | Busnes Cymru (llyw.cymru)

end content