Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Cofrestru ar gyfer E-filio

Trethi Annomestig Cenedlaethol - Bilio Electronig


Summary (optional)
 Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach gynnig y dewis i chi i dderbyn eich Hawliad Treth Annomestig ag e-bost yn hytrach na thrwy'r post.
start content
Cofrestru ar gyfer E-filio
Ewch

Sylwch y bydd arnoch angen eich Rhif Cyfrif Trethi Annomestig - bydd y rhif hwn wedi ei nodi ar unrhyw Hysbysiad Treth Annomestig y byddwch yn ei dderbyn gennym.

Yna byddwn yn cadarnhau i ni dderbyn eich cais ag e-bost.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cofrestru ar gyfer y cynllun bilio electronig?

  • Byddwch yn derbyn eich bil, unrhyw hysbysiadau ynglŷn ag amrywiadau, nodion atgoffa a rhybuddion terfynol (os yn berthnasol) trwy gyfrwng e-bost. Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu hanfon fel dogfennau PDF
  • Bydd modd i chi argraffu eich bil os dymunwch
  • Os nad ydych wedi dewis talu gyda Debyd Uniongyrchol gallwch dalu eich bil yn ddiogel ar-lein trwy ddilyn y ddolen fydd ynghlwm wrth yr hawliad e-bost y byddwn wedi ei anfon
  • Os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost bydd modd i chi roi gwybod i ni trwy gwblhau ffurflen bilio electronig ar-lein ar gyfer Trethi Busnes gan roi eich manylion newydd.

Sut ydw i'n rhoi'r gorau i filio electronig?

Sylwch os bydd unrhyw hysbysiadau y byddwn yn eu hanfon atoch ag e-bost yn cael eu dychwelyd atom ddwywaith fel rhai sydd heb eu derbyn byddwn yn dileu eich cais am filio electronig yn awtomatig ac yn anfon unrhyw ohebiaeth atoch i'r dyfodol trwy'r post. Pe byddech wedyn yn dymuno derbyn eich biliau ag e-bost eto byddai angen i chi ailgyflwyno eich ffurflen bilio electronig ar-lein ar gyfer y Dreth Annomestig gan gadarnhau bod manylion eich e-bost yn gywir. 

end content