Y Newyddion diweddaraf -  Colwyn Bid Limited - Ardal Gwella Busnes Bae Colwyn
Hysbysiad o Derfynu Ardal Gwella Busnes Colwyn (AGB) (Ffeil Word)
Mae busnesau o bob rhan o Fae Colwyn wedi pleidleisio ym mis Tachwedd 2015 ar gyfer Ardal Gwella Busnes (AGB) gyda 68% yn pleidleisio o blaid yn ôl rhif a 70% yn pleidleisio o blaid yn ôl Gwerth Ardrethol.
Nododd Llywodraeth Cymru Fae Colwyn fel ardal yr oeddent yn dymuno ei chefnogi i ddatblygu Ardal Gwella Busnes.
Mae AGB Colwyn yn cynnwys Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn a Mochdre ac yn rhoi cyfle i fusnesau i lunio dyfodol yr ardal ac yn adeiladu ar y buddsoddiadau diweddar fel Parc Eirias, y traeth newydd a'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr. Mae'r AGB yn cael ei reoli gan fusnesau o bob rhan o ardal Bae Colwyn gan gynnwys y Siambr Fasnach a’r Tîm Tref a gefnogir gan y Prosiect Bywyd y Bae a chwmni o arbenigwyr AGB, Partnerships For Better Business Ltd (pfbb UK).
Bydd yr AGB yn dechrau gweithrediadau ar 1 Ebrill 2016
AGB Colwyn
Gweler isod y rhagolygon o Gostau Ardoll yr AGB arfaethedig yn dibynnu ar S12 (7) o Gynigion Dosbarth Gwella Busnes (AGB) Colwyn a Chynllun Busnes 2016-2021 - sy'n datgan ‘Bydd cynnydd chwyddiant blynyddol yn cael ei gymhwyso i’r holl daliadau ardoll (gan gynnwys taliadau band sefydlog) drwy gydol cyfnod yr AGB. Bydd y cynnydd yn o leiaf 2% y flwyddyn neu fel y pennir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr at 1 Ionawr blwyddyn y broses filio nesaf, pa un bynnag yw’r mwyaf, wedi ei dalgrynnu i’r degfed geiniog agosaf (e.e. os yw bil ardoll yn £180 y chwyddiant perthnasol i hyn ar lefel o 2% fyddai £3.60 y flwyddyn). Ni fydd chwyddiant negyddol yn berthnasol. Ni fydd chwyddiant yn cael ei gymhwyso ar gyfer y cylch bilio gyntaf yn 2016.’
Mae’r Ardoll AGB yn cael ei gyfrifo yn unol a Gwerth Trethadwy holl hereditamentau cyfredol ar 1 Hydref, 2015.
    
| BLWYDDYN | AGB 101 GA £3,000 - £9,999 | AGB 102 GA £10,000 - £14,999 | AGB 103 GA £15,000 A THROSODD | AGB 104 £27,000 | 
|---|
| 2016/17 | £180.00 | £270.00 | 1.80% | £486.00 | 
| 2017/18 | £183.60 | £275.40 | 1.84% | £495.72 | 
| 2018/19 | £188.56 | £282.84 | £1.886 | £509.10 | 
| 2019/20 | £191.02 | £286.53 | 1.91% | £515.74 | 
| 2020/21 | £194.84 | £292.26 | 1.95% | £526.05 |