Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Ad-dalu eich Rhyddhad Ardrethi Busnes

Ad-dalu eich Rhyddhad Ardrethi Busnes


Summary (optional)
start content

Os ydych chi’n derbyn rhyddhad ar eich Ardrethi Busnes Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar hyn o bryd, ac eisiau rhoi’r gorau i hawlio’r rhyddhad hwn, gallwch ad-dalu unrhyw gymorth a dalwyd i chi am eiddo yng Nghymru drwy gysylltu â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, gan ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Gallwch wneud ad-daliad trwy gadarnhau eich bwriad yn ysgrifenedig mewn neges e-bost i: DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru

Dylech nodi:

  • gwerth y taliad arfaethedig
  • dyddiad y taliad arfaethedig. Rhowch o leiaf 3 diwrnod o rybudd


Byddwch yn derbyn cadarnhad gan Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn yr hysbysiad a bydd y neges hefyd yn nodi manylion y cyfrif banc y dylech chi dalu’r ad-daliad iddo.

end content