Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Trethi Busnes (Trethi Annomestig Cenedlaethol) - Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml - Trethi Busnes


Summary (optional)
Mae Trethi Annomestig (a gyfeirir atynt weithiau fel Trethi Busnes) yn rhan bwysig o gyllid Llywodraeth Leol. Mae'r system bresennol yn gweithredu ers 1 Ebrill 1990 a daeth i rym yn lle'r hen system Drethu Gyffredinol a oedd yn cynnwys eiddo domestig ac annomestig fel ei gilydd. Mae rhai atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf fel a ganlyn..
start content

Dolenni gwefan defnyddiol ar gyfer y Swyddfa Brisio

Mae'r dolenni isod yn cynnig atebion i'ch cwestiynau mewn perthynas â Phrisio Ardrethi ac Ardrethi Busnes.

 

C. Mae fy musnes yn ei chael yn anodd yn ystod y dirwasgiad. Lle mae cael cyngor?

A. I gael cyngor ynglŷn â thalu Trethi Busnes, gostyngiadau ac eithriadau, neu os oes gennych ôl-ddyledion, ffoniwch yr Adain Trethi Busnes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar: 01492 576609, neu anfonwch neges e-bost i ymholiadau.trethi-annomestig@conwy.gov.uk.

Os ydych yn dymuno cael cyngor ynglŷn â pha help sydd, efallai, ar gael i'ch busnes mewn meysydd heblaw am Drethi Busnes efallai eich bod hefyd yn dymuno ffonio Adran Busnes a Datblygu'r Cyngor ar:   01492 574574 neu anfon neges e-bost i businesscentre@conwy.gov.uk

C. Pam fo raid i mi dalu Trethi Busnes (Trethi Annomestig Cenedlaethol)?

A. Mae Trethi Busnes yn dreth genedlaethol sy'n gyfraniad a wneir gan fusnesau tuag at y gost am wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorau Cymuned, a'r Heddlu a'r Gwasanaethau Tân ac Achub. Mae'r holl arian a gesglir yn cael ei basio ymlaen at y Llywodraeth, sydd wedyn yn ailddosbarthu'r arian i Lywodraeth Leol ar sail poblogaeth yr ardal.

C. Pam fo raid i mi dalu am gasglu fy sbwriel masnachol?

A. Tra bo casglu gwastraff Domestig wedi'i gynnwys mewn costau sydd wedi'u cynnwys yn nhreth y cyngor, nid dyma'r achos gyda siopau, ffatrïoedd a busnesau eraill sydd o fewn y system drethu annomestig. Dan Adran 34 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 mae gan bob busnes Ddyletswydd Gofal i gael gwared â'u gwastraff trwy wasanaethau casglu gwastraff masnachol awdurdodedig ac mae'n rhaid iddynt brofi hynny. Mae'r rhai sy'n cyflawni trosedd yn wynebu dirwy anghyfyngedig a'r posibilrwydd o gael eu carcharu.

C. Sut mae fy nhrethi yn cael eu cyfrifo?

A. Mae atebolrwydd trethi yn cael ei gyfrifo trwy luosi'r Lluosydd Trethi Annomestig Cenedlaethol (a oedd yn cael ei alw'n gyfradd yn y bunt neu'r Dreth yn y Bunt) gyda Gwerth Trethadwy eiddo.

C. Beth yw'r Lluosydd hwn neu'r Dreth yn y Bunt?

A. Mae hwn yn werth sy'n cael ei bennu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau 1 Ebrill 2013, pennwyd fod y gwerth yn 46.4c, sy'n golygu ar gyfer pob £1 o Werth Trethadwy, byddwch yn talu 46.4c mewn trethi. Mae'r gwerth hwn yn cael ei gymhwyso bob blwyddyn oherwydd effeithiau chwyddiant.

C. Beth yw Gwerth Trethadwy fy eiddo?

A. Mae hwn yn werth sydd wedi'i seilio ar y rhent blynyddol y gellir ei gael o'ch eiddo ar ddyddiad penodol. Ar gyfer y Rhestr Drethu gyfredol sy'n gweithredu ers 1 Ebrill 2010, y dystiolaeth rentu a ddefnyddir yw'r gwerth ar 1 Ebrill 2008. Mae'r gwerthoedd hyn yn cael eu hadolygu bob 5 mlynedd.

C. Pwy sy'n  pennu'r Gwerth Trethadwy?

A. Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Tŷ Rhodfa, Tŷ Glas Road, Llanisien, Caerdydd CF14 5GR sy’n penderfynu beth yw gwerth yr eiddo ar gyfer dibenion Ardrethu. Mae’n gwbl annibynnol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a gellir cysylltu â'r asiantaeth ar 03000 504240. Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod y Rhestr Ardrethu Annomestig yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol. Mae gan y Swyddfa Brisio wefan , www.voa.gov.uk

C. Beth yw'r Rhestr Drethu Annomestig?

A. Mae gan bob Cyngor restr sy'n nodi gwerth pob eiddo Annomestig yn ei ardal - y Rhestr Drethu Annomestig. Mae'n nodi pob eiddo yn yr ardal, eu gwerthoedd trethadwy, a disgrifiadau ohonynt. Mae'r eiddo wedi'u rhestru fesul stryd yn nhrefn y wyddor o fewn ardaloedd y post ac mae gan bob eiddo ei gyfeirif ei hun. Ar ôl gwneud unrhyw newid i asesiad, gwneir nodyn addas o beth oedd y newid ac ymhle mae'r manylion.

C. A oes modd gweld y Rhestr Drethu Annomestig hon, ac os felly, ymhle?

A. Mae'r Rhestr Drethu yn ddogfen gyhoeddus a gellir ei gweld ar wefan y Swyddog Prisio yn http://www.voa.gov.uk. Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei chadw ym mhrif swyddfeydd y Cyngor ym Modlondeb, Bangor Road, Conwy LL32 8DU.

C. Beth sy'n digwydd os nad wyf yn cytuno bod Gwerth Trethadwy fy eiddo yn gywir?

A. Gall unrhyw unigolyn nad yw'n cytuno gyda'r Gwerth Trethadwy sydd wedi'i nodi yn y Rhestr Drethu apelio yn erbyn y gwerth. Rhaid gwneud POB apêl i'r Swyddog Prisio, manylion uchod, ac NID i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhaid i apêl fod AR BAPUR a datgan y rhesymau pam fo'r gwerth yn anghywir. Ond, gall Gwerthoedd Trethadwy godi yn ogystal â disgyn a bydd yn rhaid i chi ystyried hyn wrth benderfynu apelio yn erbyn y gwerth ai peidio.

C. Rwyf wedi apelio yn erbyn Gwerth Trethadwy fy eiddo.  A oes raid i mi dalu o hyd?

A. Oes. Mae trethi'n daladwy ar sail y gwerth trethadwy presennol sydd wedi'i nodi ar y rhestr ac rydych yn gyfrifol am dalu'r cyfrif a anfonir i chi hyd nes bydd y gwerth trethadwy ar y rhestr wedi'i ddiwygio. Os yw'r gwerth yn llai, bydd unrhyw ordaliad yn cael ei ad-dalu, ynghyd ag unrhyw log sy'n ddyledus, efallai, mewn rhai achosion.

C. Pam fo Trethi Busnes fy nghymydog yn llai na fy rhai i?

A. Mae gan bob eiddo werth trethadwy sy'n adlewyrchu rhent blynyddol yr eiddo unigol. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Swyddog Prisio.

C. Mae fy rhent yn cynnwys Trethi Busnes, felly pam fo'r bil yn cael ei anfon ataf?

A. Mae atebolrwydd talu Trethi Busnes gyda'r unigolyn sydd â hawl i ddaliadaeth fuddiannol (h.y. y deiliad) eiddo, ar wahân i unrhyw gytundeb trydydd parti. Dylech drafod hyn gyda'ch landlord, oherwydd bod cytundebau rhwng Landlordiaid a'u Tenantiaid yn fater rhyngddyn nhw eu hunain ac nid ydynt yn orfodol ar Awdurdod Lleol (neu Awdurdod Trethu) pe bai unrhyw ddadl rhwng y partïon hynny. Pe bai tenant yn talu rhent sy'n cynnwys Trethi, ond nid yw'r landlord yn pasio'r taliadau hynny ymlaen i'r Cyngor, bydd y Tenant yn parhau i fod yn atebol am dalu ac wedyn, efallai, bydd yn rhaid iddo gymryd camau yn erbyn y landlord i adennill yr arian a dalwyd i'r landlord.

end content