Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Gwasanaethau Cyllid Corfforaethol: Amodau Archebu

Gwasanaethau Cyllid Corfforaethol: Amodau Archebu


Summary (optional)
start content

Yn yr amodau hyn:
Mae "Cyngor" yn golygu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  
Mae "Contractwr'' yn golygu derbynnydd yr Archeb  
Mae "Nwyddau'' yn golygu eitemau neu bethau ac mae "gwasanaethau" yn golygu'r gwaith a ddisgrifir yn yr Archeb.

  1. Ystyrir bod derbyn yr Archeb hon yn rhwymo'r Contractwr i'r telerau a'r amodau canlynol ac ni fydd unrhyw nwyddau neu wasanaethau'n cael eu darparu neu eu cyflawni os nad ydynt yn unol â'r amodau hyn. Mewn achos o unrhyw wrthdaro rhwng yr amodau hyn a rhai'r Contractwr, yr amodau hyn fydd yn rheoli.
  2. (a) Mae'n rhaid i bob nwyddau a ddarperir neu wasanaethau a roddir gyfarfod y fanyleb rheoli am nifer, ansawdd, safon neu ddisgrifiad a nodir yn yr Archeb.       
    (b) Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw nwyddau neu wasanaethau sy'n ddiffygiol neu sydd ddim yn cydymffurfio â'r ansawdd, y safon, neu'r disgrifiad a nodir yn yr Archeb.
  3. Risg y Contractwr fydd y nwyddau hyd nes y byddant yn cyrraedd y Cyngor yn y cyfeiriad a nodwyd ar yr Archeb.
  4. (a) Bydd y Cyngor yn ceisio cydymffurfio ag unrhyw amodau gan y Contractwr ynghylch hysbysu am ddifrod neu golled yn ystod cludiant neu nwyddau ddim yn cyrraedd, ond ni ystyrir fod y Cyngor wedi derbyn y nwyddau mewn cyflwr da ac yn ôl yr Archeb oherwydd iddynt fethu cadw at yr amodau      
    (b) Ni ystyrir bod y Cyngor wedi derbyn y nwyddau mewn cyflwr da ac yn ôl yr Archeb oherwydd bod llofnod wedi'i roi ar ran y Cyngor ar y nodyn derbyn neu dderbynneb arall am y nwyddau heb nodi bod unrhyw ddifrod neu brinder.
  5. Bydd nwyddau a wrthodir yn cael eu symud gan ac ar draul y Contractwr o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r Cyngor hysbysu'r Contractwr ei fod yn gwrthod y nwyddau. Os na fydd y nwyddau'n cael eu symud gall y Cyngor ddychwelyd y nwyddau a wrthodwyd ar draul a risg y Contractwr.
  6. Bydd y Contractwr yn digolledu ac yn parhau i ddigolledu'r Cyngor yn erbyn pob colled a hawliad am niwed (gan gynnwys marwolaeth, salwch neu afiechyd) neu niwed i unrhyw berson neu eiddo a all ddeillio oherwydd neu o ganlyniad i gyflawni'r Archeb hon ac yn erbyn pob hawliad, archiad, achosion llys, costau difrod, costau, ffïoedd a threuliau mewn perthynas â hyn. Bydd y Contractwr (ond heb gyfyngu ei oblygiadau a'i gyfrifoldebau o dan y digolledu a roddir gan y Contractwr yn y cymal hwn) yn yswirio yn erbyn unrhyw ddifrod, colled neu anaf a all ddigwydd i unrhyw eiddo neu i unrhyw berson oherwydd neu yn deillio o gyflawni'r Archeb. Bydd y fath yswiriant y cael ei weithredu ar delerau a gymeradwyir gan y Cyngor am o leiaf £5m neu am unrhyw swm uwch a nodir gan y Cyngor. Bydd angen i gontractwyr sy’n cyflenwi gwasanaethau proffesiynol i’r Cyngor fod â lleiafswm o £2m o yswiriant indemniad proffesiynol. Bydd y contractwr hwnnw yn atebol i’r Cyngor am unrhyw golledion ariannol o ganlyniad i gyngor proffesiynol anghywir ganddynt.Bydd y Contractwr pan fo'r Cyngor yn gofyn am hynny yn cyflwyno'r polisi neu bolisiau yswiriant a derbynebau am dalu'r premiwm cyfredol.
  7. Gall y Cyngor ganslo'r archeb hon ar unrhyw adeg gan hysbysu'r Contractwr yn ysgrifenedig. Telir pris teg a rhesymol am yr holl waith sy'n cael ei wneud ar adeg canslo ac a dderbyniwyd wedi hynny gan y Cyngor. Ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw golled i'r Contractwr gan gynnwys colled o ganlyniad i ganslo.
  8. Gwneir yr Archeb hon ar y ddealltwriaeth y caiff eich anfoneb ei dyddio ar neu wedi'r derbyniad yn y cyfeiriad a nodwyd, ac nid cyn hynny.
  9. Ni dderbynnir mwy nag un archeb ar bob anfoneb.
  10. Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am nwyddau a dderbyniwyd neu waith a wnaed yn absenoldeb archeb swyddogol gytunedig.

Cyffredinol

(a) Rhaid nodi rhifau Archeb swyddogol.  
(b) Rhaid anfon anfoneb gyda phris a dyddiad gan roi manylion am nwyddau ac ati a gyflwynwyd ac unrhyw TAW sy'n daladwy i gyfeiriad yr anfoneb.  
(c) Rhaid anfon nodyn cynghori am yr holl nwyddau a anfonwyd gyda'r nwyddau i'r man danfon.

end content