Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Llety Gwyliau

Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Llety Gwyliau


Summary (optional)
Os ydych chi’n defnyddio eich eiddo ar gyfer busnes, mae’n rhaid i chi fod â gwasanaeth casglu gwastraff masnachol.
start content

Os ydych chi’n defnyddio eich eiddo ar gyfer busnes, un ai yn ei osod fel llety gwyliau, llety hunanarlwyo neu os ydych yn rhedeg tŷ gwesty, mae’n rhaid i chi fod â gwasanaeth casglu gwastraff masnachol.

Mae Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 yn nodi na chaniateir i lety gwyliau a llety hunanarlwyo ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu ymyl palmant y Cyngor lleol. Y rheswm am hyn yw am fod gwastraff o eiddo a ddefnyddir ar gyfer busnes yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff masnachol. Felly mae angen i chi fod â chontract gwastraff masnachol.

Nid oes gwahaniaeth os ydych wedi cofrestru ar gyfer trethi busnes na faint o ddiwrnodau mae’r eiddo ar gael i westeion.  Os yw eich eiddo wedi ei gofrestru ar gyfer cyfraddau busnes (ardrethi annomestig cenedlaethol) nid yw hwn yn cynnwys casglu a gwaredu gwastraff masnachol. 

Mae’r Cyngor yn cynnig ystod o gasgliadau ailgylchu a gwastraff masnachol sy’n fforddiadwy.  Rydym yn codi tâl fesul casgliad yn unig.  Mae’r costau hyn yn cynnwys y biniau eu hunain, eich dogfennau Dyletswydd Gofal, a dosbarthu’r biniau ar y cychwyn.  Nid oes unrhyw gostau cudd ac nid oes TAW. 

Os byddwch yn dewis defnyddio darparwr gwahanol, mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i chi brofi fod gennych drefniadau casglu gwastraff priodol mewn grym.

end content