Os ydych yn rhedeg busnes neu’n cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i waredu unrhyw wastraff a deunydd ailgylchu yn gyfrifol, trwy ei roi mewn cludwr gwastraff masnach trwyddedig.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gludwr gwastraff masnach trwyddedig. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr, dibynadwy a phroffesiynol ar gyfer busnesau sydd angen contract ar gyfer casgliadau rheolaidd ac ar gyfer cynnal digwyddiadau untro.
Casgliadau ar GontractOs ydych angen gwaredu gwastraff ailgylchu a gwastraff cyffredinol yn rheolaidd o'ch safle busnes, mae ein gwasanaeth casglu yn ddelfrydol.
Ar gael naill ai ar gontractau mis neu dymor penodol (lleiafswm o 6 mis).
Rydym yn codi tâl fesul casgliad yn unig. Mae’r taliadau hyn yn cynnwys
- biniau a chludo
- dogfennau Dyletswydd Gofal
- casglu’r biniau
Nid oes unrhyw gostau cudd na TAW.
Taliadau Contract Gwastraff
Yn ddilys o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.
*Casgliadau wythnosol, bob pythefnos neu’n fisol:
Cynhwysydd Ailgylchu | Amlder Casgliadau sydd ar gael | Cost |
Bin ailgylchu caniau 240L
|
Wythnosol
|
£3.00 am bob casgliad
|
Bin ailgylchu gwydr 240L
|
Wythnosol
|
£3.00 am bob casgliad
|
Bin ailgylchu plastig
|
Wythnosol
|
£3.00 am bob casgliad
|
Bin Bwyd 140L(yn cynnwys bagiau bio)
|
Wythnosol
|
£5.00 am bob casgliad
|
Bin ailgylchu cardbord 660L
|
Wythnosol
|
£5.50 am bob casgliad
|
Sticeri Cardfwrdd
|
Wythnosol
|
£87.50 am bob rholyn o 25 sticer (£3.50 am bob sticer)
£5.00 am gludo
|
Trolibocs Dim ond ar gyfer lleoliadau ble mae’r canlynol yn gymwys:
|
Wythnosol
|
£5.00 am bob casgliad
|
*Casgliadau wythnosol, gyda biniau meintiau gwahanol i gwrdd â’ch anghenion:
Cynhwysydd Gwastraff | Cost |
Bin Gwastraff 240L
|
£8.00 am bob casgliad
|
Bin Gwastraff 660L
|
£16.00 am bob casgliad
|
Bin Gwastraff 1,110L
|
£26.50 am bob casgliad
|
Sachau Masnach - Dim ond ar gael i gwsmeriaid lle na fydd bin yn ffitio
|
£84.00 am lwyth o 20 (£4.20 am bob sach) £5.00 am gludo neu brynu o Lyfrgell
|
Casgliadau o Ddigwyddiadau
Os ydych yn cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i drefnu ar gyfer unrhyw wastraff ailgylchu ychwanegol, gwastraff ailgylchu neu sbwriel yn yr ardal.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu ein Gwasanaethau Casglu o Ddigwyddiadau:
Lawrlwytho ffurflen archebu a rhestr brisiau.
Cyflwynwch eich archeb mewn da bryd, o leiaf 28 diwrnod cyn eich digwyddiad. Bydd rhagdaliad yn ofynnol.
*Mae TAW yn berthnasol ar gyfer taliadau dosbarthu a chasglu.