Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013


Summary (optional)
Daeth y Ddeddf uchod i rym ar 1 Hydref 2014. Mae’r Ddeddf yn gymwys i’r holl dir y lleolir cartref symudol arno, er pwrpas cartrefu pobl; gelwir hyn yn safle rheoledig. Nid yw’n gymwys i safleoedd gwyliau, ac mae rhai eithriadau e.e. os yw carafán wedi’i leoli o fewn cwrtil tŷ annedd ac mae defnydd y garafán yn cael ei ddefnyddio er mwynhad y tŷ hwnnw.
start content

Mae Swyddogion Gwarchod Y Cyhoedd yn gweithio ar hyn o bryd efo Busnesau Conwy, asiantaethau a phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn diweddaru eu hunain â Rheoliadau'r Llywodraeth sydd gyda'r nod o gadw preswylwyr yn ddiogel a helpu i atal y lledaeniad o Covid 19.
Mae hi dal yn bosib cofnodi eich cwyn ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw gan mai gwaith ychwanegol yw hyn i ni ar gyfer y misoedd nesaf sy’n golygu bydd oedi gyda’r gwaith o brosesu a delio gyda’ch cwyn.

Safleoedd Carfanau Preswyl

Mae angen trwydded ar gyfer gweithredu safle carafanau preswyl, gellir cyhoeddi’r drwydded am hyd at gyfnod o 5 mlynedd. Rhaid cael caniatâd cynllunio hefyd er mwyn caniatau safle i gael ei ddefnyddio fel safle carafanau preswyl.

Nodwch: Bydd methu gweithredu safle carfanau preswyl gyda’r drwydded neu’r caniatâd cynllunio perthnasol yn golygu erlyniad troseddol.

Rhestr o safleoedd carafanau preswyl yng Nghonwy

SafleTrwydded wedi’i chyflwynoHyd y drwydded Carafán sengl ar y safle Rheolau Safle
Fferm Garth Fawr, Llangwstennin, Cyffordd Llandudno, LL31 9JF 04/03/2016 5 mlynedd Na Rheolau Safle Fferm Garth Fawr 
Maes Carafanau Glan Morfa, Ffordd Maelgwyn, Cyffordd Llandudno, LL31   9BL  12/11/2015 5 mlynedd Na  
Little Paddock, Gwellyn Avenue, Bae Cinmel, LL18 5HR 29/07/2015 5 mlynedd Na Rheolau Safle Little Paddock
Tynafallan, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, LL25 0PQ 28/04/2015 5 mlynedd Ie  
114 Bellvue, Maes Carafanau Gorse Hill, Conwy, LL32 8HJ 13/01/2016 5 mlynedd Ie  
Hendre Waelod, Glan Conwy, Bae Colwyn, LL28 5TN 15/12/2015 5 mlynedd Ie   
Parc Hamdden Whitehouse, Ffordd Towyn, Towyn, Abergele, LL22 9EY  01/03/2016 5 mlynedd N Rheolau Safle Parc Hamdden Whitehouse
Berth Ddu, Ffordd Berthddu, Llanrwst, LL26 0PP  12/11/2015 5 mlynedd Na Rheolau Safle Berth Ddu
Parc Gwyliau Golden Sands, Ffordd y Foryd, Bae Cinmel, y Rhyl, LL18   5NA  05/06/2020 5 mlynedd Na Rheolau Parc Gwyliau Golden Sands
Parc Bryn Gynog, Fordd Hendre, Conwy, LL32 8NF 05/08/2020 5 mlynedd Na Rheolau Parc Bryn Gynog

Sut i wneud cais

Ffurflen gais am drwydded safle

Rhestr wirio ymgeisio

Dogfennau Ategol

Mae’n rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’ch cais:

  • Cynllun o’r safle ar raddfa 1/500;
  • Asesiad Risg o Dân
  • Rheolau safle.  
  • Tystysgrif Diogelwch Nwy
  • Tystysgrif diogelwch gosodiad trydanol; ac
  • Asesiad Risg iechyd a diogelwch.

Bydd peidio â chyflwyno’r wybodaeth ofynnol yn golygu bod eich cais yn annilys.   

Ffioedd

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru ) 2013 yn caniatau Awdurdodau Lleol i godi ffi am y swyddogaethau canlynol:

  1. Dyrannu trwydded safle, sy’n cynnwys cost archwiliad
  2. Amodau amrywiol
  3. Rheolau safle lletya os yw perchennog y safle yn gofyn am hyn
  4. Darparu trwydded newydd

Mae’r Ddeddf yn gofyn bod awdurdod lleol yn cyhoeddi ei bolisi ffioedd, mewn perthynas â'r gwahanol swyddogaethau.

Y Polisi Ffioedd ar gyfer Cartrefi Symudol     

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, dan ei gynllun dirprwyo wedi pennu bod y ffioedd canlynol yn berthnasol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013:

CategoriFFI
I.  Carafán Sengl £175.00
II. Carafán sengl ar safle cymysg* £185.00
III. Safle bychan (2-20 o garafanau) £275.00
IV. Safle canolig (21-50 o garafanau) £540.00
V.  Safle mawr (51+ o garafanau) £1090.00
VI.  Cais i amrywio amodau trwydded safle £240.00
VII.  Gosod rheolau safle £35.00
VIII.  Trwydded arall £19.00

* Bydd safle cymysg sydd â mwy nag un garafán yn cael ei drin fel safle bach neu ganolig.

Wrth osod y ffioedd hyn, dilynwyd canllaw Llywodraeth Cymru, a’r gweithredoedd a gysylltir gyda phob swyddogaeth sydd wedi cael eu hystyried yn unig.

Cymhwysedd

Ni roddir trwydded safle i unigolyn y mae'r Awdurdod Lleol yn ymwybodol eu bod wedi meddu ar drwydded safle a gafodd ei ddirymu yn y tair blynedd diwethaf.

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi cyflwyno prawf unigolyn cymwys ac addas ar gyfer perchennog neu reolwr y safle.  Ar adegau efallai y bydd yn briodol i’r awdurdod lleol geisio gwybodaeth bellach i nodi os oes gan unigolyn euogfarnau perthnasol.

Deddfwriaeth ac Amodau

Mae'n rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded ddiwallu gofynion Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 – Deddf Cartrefi Symudol Cymru 2013

Mae amodau o Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru yn cael ei atodi at y trwyddedau - Safonau Enghreifftiol 2008

Canllawiau pellach

Gellir canfod gwybodaeth ar Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gan gynnwys ffioedd am leiniau, gwerthu a rhoi cartref symudol, rheolau safle a chymdeithasau preswylwyr cymwys ar wefan Llywodraeth Cymru.

Perchnogion safle - Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain www.bhhpa.org.uk  


Preswylwyr Safle – Cymdeithas Genedlaethol Preswylwyr Parciau Cartrefi www.naphr.co.uk  

Mae Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau yn darparu gwasanaeth ar gyfer perchnogion tai symudol a pherchnogion safle www.lease-advice.org  

Gorfodi

Cyflwynodd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ddarpariaethau gorfodi newydd, sef:

  • Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer mân achosion o dorri trwyddedau safle.
  • Hysbysiadau cydymffurfio
  • Camau brys pan fo perchennog y safle yn gwrthod neu’n methu â chymryd camau ar unwaith i ddiogelu'r preswylwyr ar y safle.

Rhowch wybod am broblem

Os oes gennych chi unrhyw gwynion neu ymholiadau am safle carafanau preswyl llenwch ein ffurflen ar-lein.

end content