Rydym ni’n ymwybodol fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi dau gynllun newydd a fydd ar gael o fis Chwefror 2023 ar gyfer yr aelwydydd hynny nad ydynt yn gymwys i’r gostyngiad £400 drwy Gynllun Cymorth Ynni.
Fe fydd angen cyflwyno ceisiadau yn uniongyrchol i’r Llywodraeth yn ganolog drwy y dolenni GOV.UK isod, ac nid drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Os na allwch chi ymgeisio ar-lein neu os ydych chi angen cymorth gyda’ch cais, cysylltwch â thîm llinell gymorth y Llywodraeth:
E-bost: alternativefunding@ebss.beis.gov.uk
Ffôn: 0808 175 3287, dydd Llun - dydd Gwener 8yb - 6yp
Cynllun Cymorth Biliau Ynni - Cyllid Amgen
Bwriad y cynllun yw rhoi £400 o gymorth i aelwydydd ar draws y DU a fyddai fel arall yn methu allan ar y Cynllun Cymorth Biliau Ynni, gan nad oes ganddynt gontract trydan domestig.
Ceisiadau ar agor rŵan drwy GOV.UK.
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y taliad, fe fydd eich manylion talu’n cael eu rhannu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, er mwyn gwirio eich cyfeiriad cartref ac i wneud y taliad.
Taliadau Tanwydd Amgen
Bwriad y cynllun yw rhoi taliad untro o £200 i aelwydydd y DU nad ydynt wedi’u cysylltu â’r grid prif gyflenwad nwy ac sydd felly yn defnyddio tanwydd amgen, megis olew cynhesu, i gynhesu eu cartref.
Fe fydd y Llywodraeth yn agor y cynllun i dderbyn ceisiadau o ddechrau mis Mawrth 2023 drwy GOV.UK.
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y taliad, fe fydd eich manylion talu’n cael eu rhannu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, er mwyn gwirio eich cyfeiriad cartref ac i wneud y taliad.
Hysbysiad Preifatrwydd Cyllid Amgen Cynllun Cymorth Biliau Ynni