Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taliadau Tai Dewisol


Summary (optional)
Gwybodaeth am Daliadau Tai Dewisol
start content

Beth yw Taliad Tai Dewisol?

Mae Taliadau Tai Dewisol (DHP) yn rhoi cefnogaeth ariannol bellach i gwsmeriaid sy’n derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol gyda Chostau Tai os ydynt mewn angen eithriadol gyda'u costau tai.  Mae'n ychwanegol at unrhyw Fudd-dal Lles arall.

Yn gyffredinol, mae costau tai yn golygu atebolrwydd rhent, ond mae costau tai yn cael eu dehongli yn ehangach i gynnwys -

  • Rhent ymlaen llaw
  • Blaendal rhent a
  • Chostau lwmp swm eraill sy’n gysylltiedig ag anghenion tai fel costau symud neu wiriadau credyd ar gyfer asiantau gosod.

Mae Llywodraeth y D.U. yn rhoi cyllideb gyfyngedig i bob Awdurdod Lleol bob blwyddyn ariannol i helpu'r rheini sydd â'r angen mwyaf, felly mae angen ffurflen gais wedi'i chwblhau er mwyn penderfynu os gellir rhoi Taliad Tai Dewisol.

A allaf hawlio Taliad Tai Dewisol?

Gellir rhoi DHP dim ond os yw ymgeisydd yn derbyn/â hawl i - 

  • Budd-dal Tai neu
  • Credyd Cynhwysol sy'n cynnwys elfen tai tuag at rent ac
  • mae angen cymorth ariannol pellach ar yr ymgeisydd ar gyfer costau tai ac mae’n byw o fewn Bwrdeistref Conwy.    

Sut ydw i’n hawlio Taliad Tai Dewisol?

Mae’n rhaid i gais am Daliad Tai Dewisol gael ei wneud ar ffurflen gais a roddwyd  gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Yn syml, lawrlwythwch y ffurflen (PDF, 306Kb), ei hargraffu gartref neu yn un o'n llyfrgelloedd.

Ar ôl llenwi’r ffurflen, dylid ei dychwelyd i’r:

Swyddfa Budd-dal Tai
PO Box 1
Conwy
LL30 9GN

Os ydych angen ffurflen bapur, neu unrhyw gymorth gyda llenwi’r ffurflen; neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch gysylltu gydag aelod o’r tîm neu ymweld ag unrhyw un o’n swyddfeydd yn Sir Conwy.

Ddogfen Bolisi Budd-daliadau (PDF)

end content