Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhwydwaith Rhieni Conwy


Summary (optional)
Os ydych yn rhiant sy'n byw yng Nghonwy beth am gofrestru i ymuno â Rhwydwaith Rhieni Conwy?
start content

Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cyfeiriad e-bost, a byddwn yn anfon y wybodaeth a dderbyniwn yn uniongyrchol atoch drwy eich ‘mewnflwch’. Os hoffech ymuno â’r Rhwydwaith Rhieni, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein. Dim ond preswylwyr Sir Conwy ddylai lenwi’r ffurflen hon. Os ydych eisiau gwybod mwy cyn cofrestru, ffoniwch ni ar 01492 577850 neu anfonwch e-bost: plant.children@conwy.gov.uk. Mae gennym dudalen Facebook hefyd lle gellwch ganfod beth sy’n digwydd yn yr ardal. Ewch i: https://www.facebook.com/ConwyFIS.

  • Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau yn yr ardal
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwasanaethau i blant a phobl ifanc, gellwch gysylltu â ni am wybodaeth a chyngor.
Mae croeso i bob math o rieni ymuno â’r Rhwydwaith – mamau a thadau, neiniau a theidiau, rhieni mabwysiadol, rhieni maeth, llys-rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed.

Ymunwch â'r Rhwydwaith drwy gofrestru i gael gwybodaeth ac i ddweud eich dweud ar sut mae Conwy yn gweithio i chi a'ch plant.

Os hoffech ymuno â'r Rhwydwaith Rhieni, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein. Dim ond preswylwyr Sir Conwy ddylai lenwi’r ffurflen hon. Os ydych eisiau gwybod mwy cyn cofrestru, mae croeso i chi gysylltu â Margaret Driscoll neu Ceinwen Jeffers ar 01492 577865 neu anfonwch e-bost: plant.children@conwy.gov.uk.

 

end content