Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Canolfan Integredig Lôn Hen Ysgol


Summary (optional)
start content

Beth yw canolfan integredig?

Canolfan integredig yw un adeilad ble mae sawl gwasanaeth yn gweithredu ohono i ddarparu cyfleusterau i deuluoedd.

Yn y Ganolfan Lôn Hen Ysgol mae gennym y cyfleusterau canlynol:

Ystafell Hyfforddiant: Mae gennym ystafell hyfforddiant cyflawn ble mae grwpiau yn cyfarfod, darperir hyfforddiant neu gellir eu harchebu.

I archebu’r ystafell hyfforddiant neu i drefnu i weld y cyfleusterau cysylltwch â: 01492 577850 neu e-bost clhy@conwy.gov.uk

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy yn darparu gwybodaeth AM DDIM ar bob agwedd ar ofal plant a gwasanaethau i blant a phobl ifanc a theuluoedd, gan gynnwys bas-data ar-lein.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy
Canolfan Lôn Hen Ysgol,
Church Walks,
Llandudno,
Ffôn: 01492 577850
E-bost: plant.children@conwy.gov.uk


Tîm Datblygu Gofal Plant

Mae’r tîm gofal plant yn darparu cefnogaeth i leoliadau gofal plant a hyfforddiant.  Maent yn cefnogi’r rhai sydd eisiau cofrestru ac yn gyfrifol am gynnal yr Archwiliad Digonolrwydd Gofal Plant.

Cysylltwch â ni: 01492 577850

Tîm Cyfnod Sylfaen

Mae’r tîm cyfnod sylfaen yn darparu cyngor a chefnogaeth i leoliadau 3 oed sydd wedi’u hariannu i’w cynorthwyo i gyflwyno’r cyfnod sylfaen ac i baratoi ar gyfer eu harolygon ESTYN.

Cysylltwch â ni: 01492 577851

Cyn-ysgol Lôn Ysgol

Gofal plant ac addysg cyfnod sylfaen i rai 2-4 oed o 9.15-3pm.

Cysylltwch â ni:01492 577861 neu e-bost schoollaneplaygroup@conwy.gov.uk

Llyfrgell Deganau Fforwm Blynyddoedd Cynnar Conwy

Mae’r llyfrgell deganau yn benthyca adnoddau o ansawdd uchel i ddarparwyr gofal plant, ysgolion a grwpiau rhiant a phlant.

Cysylltwch â ni: 01492 577864, neu e-bost conwytoylibrary@gmail.com

end content