Mae gofalwyr plant yn darparu gofal a chyfleoedd dysgu i blant dan 12 oed yn eu cartref eu hunain am fwy na 2 awr y dydd am dâl.
- Mae gofalwyr plant yn cofrestru ac yn cael eu harchwilio gan Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) i sicrhau eu bod yn darparu amgylchedd diogel ac addas i blant ifanc.
- Mae gofalwyr plant yn hunan gyflogedig a rhaid iddynt weithio ar raddfa a nodwyd yn Isafswm Safon Cenedlaethol i warchodwyr Plant yng Nghymru (mae hyn yn cynnwys plant y gofalwr plant).
- Mae’n anghyfreithlon i ofalu am blant am dâl (arian neu werth yr arian) os nad ydych wedi cofrestru.
- Dilynwch y ddolen hon am wybodaeth bellach ar hyfforddiant ar ddod yn ofalwr plant:
Dilynwch y ddolen: Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC) / Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP) i ddarparwyr gofal plant yn y cartref neu cysylltwch â 01492 577862 eydcptraining@conwy.gov.uk am wybodaeth ynghylch sut i gael hyfforddiant a chofrestru yng Nghonwy.
Gweler hefyd