Mae'r gyfraith yn mynnu bod yr awdurdod lleol yn cynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) fel dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gofal Plant 2006.
Yr ADGP yw'r offeryn i awdurdodau lleol adolygu’r cyflenwad a'r angen am ofal plant yn yr ardal a thrwy hynny amlygu bylchau yn y ddarpariaeth a mynd i'r afael â nhw lle bo modd.
Mae gwaith ar yr ADGP nesaf (2027-2032) wedi cychwyn, ac rydym angen barn rhieni neu ofalwyr am ofal plant yn Sir Conwy.
Gweld Digonolrwydd Gofal Plant ar gyfer Conwy 2022–2027 llawn (dogfen PDF)