Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwaith a gwblhawyd


Summary (optional)
amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn
start content

2020 - Gwrthglawdd creigiau a Teithio Llesol yn Splash Point

£1.6M (Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru )

Yn gynnar yn 2020 fe gwblhawyd gwaith ar gornel y promenâd yn Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn). Cyllidwyd y gwaith hwn yn bennaf gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu’r llwybr teithio llesol a darparu gwelliannau teithio llesol eraill yn yr ardal.

Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • Gwrthglawdd creigiau i warchod y wal fôr Fictoraidd
  • Gwella ramp mynediad y traeth
  • Blaenoriaeth i gerddwyr a beicwyr wrth groesi
  • Parcio i feics
  • Gorsaf trwsio beics
  • Mannau parcio i bobl anabl
  • Goleuadau a meinciau newydd.

Roedd y gornel hon wedi ei nodi fel y rhan o’r promenâd oedd mewn mwyaf o beryg. Cafodd ei difrodi mewn storm yn union cyn cychwyn ar y gwaith a byddai wedi cwympo pe na byddem wedi ymyrryd.

end content