Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Camau'r dyfodol


Summary (optional)
amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn
start content

Oherwydd yr anawsterau i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd, bydd y prosiect hwn yn cael ei gwblhau fesul cam ar wahân.

Sut rydym yn blaenoriaethu

Rydym wedi asesu’r risg ar hyd ffrynt Hen Golwyn fel y gallwn flaenoriaethu’r gwaith. Y rhan ddwyreiniol rhwng Rotary Way a Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn) sydd yn y peryg mwyaf o gwympo, felly byddwn yn blaenoriaethu’r rhan hon cyn y rhan orllewinol rhwng Rotary Way a Phorth Eirias.

Mae’r cynllun yn cynnwys codi’r promenâd, fel yr ydym eisoes wedi ei wneud ar y rhan ym Mae Colwyn o Borth Eirias i’r ciosg Horizon Shine. Bydd hyn yn helpu i rwystro dŵr môr rhag dod drosodd i’r promenâd yn ystod stormydd. Yn gyntaf rhaid i ni adeiladu gwrthglawdd creigiau ar ochr arall wal y môr, gan y bydd hyn yn cefnogi ac yn gwarchod y promenâd uwch.

Ionawr 2022

Rydym wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr holl waith amddiffyn yr arfordir a gwelliannau i’r promenâd a mannau cyhoeddus sy’n weddill ar Bromenâd Hen Golwyn.

Mawrth 2022

Rydym wedi cael caniatâd cynllunio a thrwyddedau morol ar gyfer yr holl waith sy’n weddill ar yr amddiffynfa arfordirol. Rydym yn parhau i chwilio am y cyllid sy’n weddill i’n galluogi ni i gwblhau’r cynllun cyfan.

Gorffennaf 2022

Rydym ni wedi cael mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru i barhau â gwaith amddiffyn yr arfordir o Splash Point (wrth Fwâu Bae Hen Golwyn) at Rotary Way. Bydd hyn yn caniatáu i ni adeiladu 350m arall o’r gwrthglawdd creigiau a chodi’r promenâd i’w amddiffyn rhag cynnydd yn lefelau’r môr.

Rydym ni’n disgwyl dechrau’r gwaith yn haf 2022, cyn gynted ag y mae’r gwaith presennol wedi’i gwblhau.

Bydd y gwaith hwn yn cymryd hyd at 18 mis i’w gwblhau.

end content