Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adborth Ymgynghoriad


Summary (optional)
Crynodeb o adborth ymgynghoriad ar gynigion am amddiffynfeydd arfordirol a gwelliannau i’r promenâd yn Hen Golwyn
start content

Fe gawsom nifer o sylwadau’n rhoi cefnogaeth gref i’r cynigion am welliannau ar y promenâd ac ar gyfer teithio llesol. Roedd y cyhoedd yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gwella’r amddiffynfeydd arfordirol a’r nod o wella’r promenâd i gyd-fynd â’r gwaith sydd wedi’i wneud eisoes ymhellach i’r gorllewin. Roeddent hefyd yn canmol sut y byddai’r cynllun dan ystyriaeth yn bwysig i adfywio ardal Bae Colwyn yn gyffredinol.

Roedd cefnogaeth benodol i well cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr. Mae Sustrans a Cycling-UK hefyd yn llwyr gefnogi’r gwelliannau sydd gennym dan sylw ar gyfer teithio llesol.

Roedd cefnogaeth i gynnwys ardaloedd awyr agored ar gyfer gwersi ysgol, ac ar gyfer y gofal ynghlwm â phryderon ecolegol, darparu cynefin a dylunio i ganiatáu i blanhigion ffynnu yno.

Rhoddodd y cyhoedd adborth cadarnhaol am y gwelliannau oedd eu hangen yn fawr ar y promenâd ac i’r amddiffynfeydd rhag y môr a sut y bydd y cynllun yn gwella mynediad at y traeth ym mhen Hen Golwyn.

Pryderon a cheisiadau

Fe gawsom ni hefyd sylwadau gyda phryderon neu geisiadau am agweddau penodol ar y cynigion, felly rydym wedi darparu mwy o wybodaeth am y rhain:

Ciosg a llochesi newydd

Pryderon am golli’r llochesi ar y promenâd


Prif ffocws y cynllun sy’n cael ei gynnig yw amddiffynfeydd arfordirol ac nid yw’n cynnwys adeiladu ciosg. Fodd bynnag, rydym yn chwilio am gyllid i gael ciosg newydd yn lle’r hen un ac rydym wedi cynnwys ardal ddynodedig a chysylltiadau cyfleustodau ar gyfer hyn. Bydd y ciosg newydd dan gais cynllunio ar wahân.

Rydym wedi adolygu dyluniad y cynllun i weld a allem ni ddarparu llochesi newydd. Prin iawn yw’r lleoliadau posib’ ar gyfer llochesi oherwydd cysylltiadau cyfleustodau Dŵr Cymru sydd yno. Byddai ardaloedd addas oddi wrth y garthffos yn rhoi’r llochesi ar ganol y llwybr cyd-ddefnydd neu ddim ar y promenâd, ac nid ydym yn dymuno unrhyw un o’r opsiynau hynny. Oherwydd hyn, rydym wedi penderfynu peidio â chynnwys llochesi newydd yn y cynllun.

Lle i eistedd

Cais i ddarparu meinciau picnic ger yr ardal bysgota


Rydym ni’n ystyried bod digon o le i eistedd yn y cynllun ar gyfer anghenion y cyhoedd, gan sicrhau hefyd bod cymaint o leoedd â phosib’ yn aros mor agored ag y bo modd.

Toiledau

Diffyg toiledau ym mhen Hen Golwyn o’r promenâd a chais am ystyried cyfleusterau ychwanegol


Mae’r cynigion hyn yn canolbwyntio yn bennaf ar waith ar amddiffynfeydd arfordirol ac nid ydynt yn cynnwys darparu rhagor o doiledau. Mae toiledau cyhoeddus eisoes yn y cynllun, wrth yr ardal ar gyfer y dosbarth awyr agored arfaethedig.

Gwaith tirlunio

Rhaid i ddarpariaeth am waith cynnal a chadw ar y planhigion fod yn greiddiol i’r cynlluniau


Mae’r cynllun yn cynnwys planhigion sydd ddim angen llawer o ofal, sy’n addas ar gyfer y safle arfordirol.

Promenâd beicio/cerdded cyffredin

Pryderon am feicwyr a cherddwyr yn cymysgu ar yr un llwybr. Holi a fyddai modd eu cadw ar wahân.


Mae rhannu ardaloedd yn ddyluniad cydnabyddedig sy’n cael ei dderbyn ar gyfer llwybrau teithio llesol. Rydym wedi datblygu’r cynigion hyn ar y cyd â Sustrans a Cycling UK sy’n gefnogol iawn o ardaloedd cyffredin i gerddwyr a beicwyr. 

Mae’r man cyffredin sydd dan sylw ar gyfer Hen Golwyn yn defnyddio’r un egwyddorion a ddefnyddiwyd ym mhob cam blaenorol ym mhrosiect glân y môr Bae Colwyn.

Rydym wedi dylunio’r cynllun arfaethedig i gynnwys digon o le cyffredin i feicwyr a cherddwyr mewn amgylchedd diogel, sy’n gwella’r ardal yn ei chyfanrwydd ac sy’n welliant ar bethau fel maent ar hyn o bryd.

Rhwng Porth Eirias a Rotary Way, bydd darn cyffredin, clir, 6m o led ar gyfer teithio llesol (cerdded, beicio ac olwyno) ar hyd hanner gogleddol y promenâd ger y morglawdd. Rhwng Rotary Way a Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn), byddai’r rhan fwyaf o’r ardal gyffredin yn 4m o led oherwydd cyfyngiadau lled, gydag isafswm o 3.5m o led ar hyd y pen pellaf dwyreiniol.

Mae’r llwybr cyffredin dan sylw’n lletach, ac mae arno well goleuadau, gwell wyneb a chanllawiau. Mae’r llwybr hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr ac yn cael gwared â’r problemau o wahanol ddefnyddwyr yn defnyddio’r llwybr anghywir.

Traffig yn ystod gwaith adeiladu

Pryderon am dagfeydd traffig trwy bentref Hen Golwyn. Sylwadau bod y cam presennol wedi bod ar fynd ers amser maith yn barod ac mae angen i gynlluniau ystyried faint o dagfeydd traffig a fydd


Rydym yn cydnabod y bydd effaith dros dro oherwydd traffig adeiladu, ond mae modd darparu ar gyfer hyn drwy’r rhwydwaith ffyrdd presennol a llwybrau gwyro.

Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’n contractwr i leihau’r effeithiau ar draffig.

Pe na byddem ni’n gwneud y gwaith hwn, byddai’r ffordd yn cau’n gyson ar ôl tywydd garw nes i’r morglawdd sydd yno ddisgyn i’r môr. Byddai wedyn angen cau’r promenâd, a phwy a ŵyr am ba mor hir. Mae’r datblygiad arfaethedig yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem bosib’ hon er budd cyffredinol trigolion lleol.

Pysgota

Pryderon y bydd y datblygiad yn effeithio ar bysgota yn yr ardal gan y bydd yn cyfyngu ar faint o le sydd ar gael ar gyfer y gweithgaredd.


Fe welsom ni fod defnydd presennol pysgotwyr o’r promenâd yn beryglus i ddefnyddwyr eraill gan ei bod yn ardal gyffredin. Mae’r cynlluniau’n cynnwys ardal benodol i bysgotwyr ei defnyddio (sydd eisoes â chaniatâd cynllunio dan gais ar wahân), sydd ar wahân i’r llwybr cyffredin i feicwyr a cherddwyr.

Mae’r platfform pysgota arfaethedig yn ddiogel ac yn hygyrch i bysgota ohono – bydd anogaeth i beidio â physgota mewn mannau eraill ar y promenâd drwy osod arwyddion.

Croesfannau

Angen croesfannau priodol ar y ffordd i gerddwyr allu croesi i’r promenâd


Mae’r cynlluniau fu’n rhan o’r ymgynghoriad yn cynnwys 4 croesfan heb eu rheoli gyda chwrb isel, palmant botymog ac arwyddion priodol. O ganlyniad i adborth y cyhoedd, rydym bellach wedi newid y croesfannau heb eu rheoli i gynnwys lliw cyferbyniol ar wyneb y ffordd i yrwyr eu gweld yn haws. Rydym hefyd wedi uwchraddio’r groesfan heb ei rheoli i’r gorllewin o gyffordd Rotary Way yn groesfan sebra gyda golau croesi melyn.

Parcio

Cais am fannau parcio o faint addas fel y rhai ym Mae Colwyn sy’n caniatáu i bobl eu defnyddio ar gyfer diwrnod allan.


Mae maint y mannau parcio ceir yn cyrraedd y safonau sy’n cael eu hargymell ac maent yn gyson â phrosiectau eraill ym Mae Colwyn.

 

Mae’r cynigion yn cynnwys gwell darpariaeth barcio gyda mannau penodol i bobl anabl a mannau gwefru ceir trydan. Mae faint o le parcio sydd yn y cynlluniau’n cael ei gyfrif yn addas, o ystyried amodau’r safle presennol a faint o fannau parcio sydd eisoes yno.

Mynediad i’r traeth

A fydd ramp at y traeth ar yr ochr ddwyreiniol (Splash Point)?


Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi ar gyfer gwaith arfordirol ar y pen dwyreiniol mewn cais ar wahân, a bydd y llithrfa bresennol at y traeth ar y pen dwyreiniol (Splash Point) yn cael ei chadw. Mae’r cynigion diwethaf hyn yn cynnwys ramp mynediad i gyrraedd ardal uwch y promenâd ar y pen dwyreiniol a byddai mynediad gwastad i’r platfform pysgota.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys ramp mynediad hygyrch at y traeth ar y pen gorllewinol, sy’n well na’r sefyllfa bresennol. Mae mwy o le yn yr ardal orllewinol i gynnwys lleiniau parcio anabl, sy’n lleihau’r pellter at y ramp hygyrch at y traeth.
end content