Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwaith cyfredol


Summary (optional)
Amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn
start content

2021 - 2024:  Rotary Way i Splash Point

£6.075 miliwn (Cronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru 2020-21), £3 miliwn (Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru 2020-21), £6 miliwn (Cronfa Ffyrdd Cydnerth 2021-22) a £1 miliwn (Cronfa Ffyrdd Cydnerth 2022-23)

Bydd y gwaith ar y cynllun hwn yn cymryd 2.5 mlynedd, o’r dyddiad dechrau ym mis Mai 2021.

Mae’n gyfnod hirach oherwydd bod y cynnydd mewn cyllid yn caniatáu ar gyfer gwneud rhagor o waith.

Mae cyfnod cychwynnol y gwaith hwn yn targedu’r rhan o’r promenâd sydd yn y perygl mwyaf o gwympo – y rhan ddwyreiniol rhwng Rotary Way a Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn).

Roedd disgwyl i’r cyfnod cychwynnol gymryd rhwng 12 a 18 mis o’r dyddiad dechrau ym mis Mai 2021, gan gynnwys:

  • Adeiladu’r 370m cyntaf o’r gwrthglawdd creigiau i warchod y morglawdd a’r promenâd (sy’n cael ei alw’n ‘revetment’ yn Saesneg)
  • Ymestyn y geuffos bresennol yn Splash Point drwy’r gwrthglawdd newydd
  • Amddiffyn arllwysfa ddŵr Dŵr Cymru o dan y gwrthglawdd newydd
  • Llwyfan pysgota yn Splash Point
  • Gwella strwythurau mynediad i’r traeth
  • Gwella mynediad dros y grwynau creigiau presennol ar y traeth


Mae’r rhan fwyaf o’r gwelliannau yn y cam cychwynnol hwn yn cael eu gwneud ar ochr traeth y morglawdd, gan ddarparu’r lefel gyntaf o amddiffyniad. Mewn camau yn y dyfodol, rydym yn bwriadu codi uchder y promenâd a gwneud gwelliannau iddo.

Gan ein bod wedi derbyn rhagor o gyllid ar ôl i ni ddechrau’r cam cychwynnol hwn, bu modd i ni ehangu’r gwaith amddiffyn arfordirol ac ymgymryd â rhywfaint o’r gwaith ychwanegol ar yr un pryd er mwyn lleihau’r amser y bydd y promenâd ar gau. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adeiladu gwrthglawdd cerrig 720 metr o flaen y morglawdd presennol
  • Codi’r promenâd a’r briffordd i’r lefel orffenedig newydd
  • Codi uchder y gwrthglawdd cerrig a adeiladwyd yn ddiweddar i gyd-fynd â’r promenâd uwch newydd
  • Gwella’r gofod cyhoeddus ar hyd y rhan newydd uwch o’r promenâd
  • Ymestyn y 2 geuffos bresennol trwy’r gwrthglawdd newydd


Yng nghamau’r gwaith hwn yn y dyfodol, rydym yn bwriadu parhau i adeiladu amddiffynfeydd môr rhwng Rotary Way a Phorth Eirias.

Tarfu a chau ffyrdd

Mae’r gwaith hwn yn waith peirianneg sylweddol, ac mae angen offer a pheiriannau mawr ar ei gyfer, gan gynnwys craeniau, peiriannau turio ar draciau a lorïau dympio. Dim ond wrth gau’r rhan hon o’r promenâd yn llwyr y gallwn ni wneud hyn yn ddiogel. Bydd y ffordd a’r llwybr teithio llesol o Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn) at Rotary Way ar gau drwy gydol y cyfnod pan fydd y gwaith yn cael ei wneud. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra i drigolion lleol, ymwelwyr, cerddwyr a beicwyr.

Gweler y map o'r llwybr gwyro i gerddwyr a beicwyr. (PDF, 7MB)

Os oes gennych bryderon am y gwaith hwn, cysylltwch â Rich Foxhall, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Griffiths ar rich.foxhall@alungriffiths.co.uk neu ffoniwch 0330 041 2185.

Diweddariadau

Diweddariad: Hydref 2023

Mae gwaith i godi lefel y promenâd a’r ffordd rhwng Rotary Way a Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn) yn mynd rhagddo’n dda. Adeiladwyd tua 590m o’r morglawdd 720m newydd. Mae ein contractwr yn gosod deunydd llenwi y tu ôl i’r rhannau a gwblhawyd o’r morglawdd newydd i godi’r promenâd a’r briffordd i’w lefel newydd.

Bydd y 2 ris mynediad newydd i’r traeth yn cael eu cwblhau yn yr wythnosau nesaf. Bydd y grisiau newydd hyn yn darparu mynediad i’r traeth trwy’r gwrthglawdd cerrig newydd. Mae’r gwrthglawdd cerrig bron wedi ei gwblhau ar ei hyd o 720m. Dim ond rhai darnau bach sydd ar ôl i’w cwblhau pan fydd y grisiau mynediad newydd i’r traeth wedi eu cwblhau’n llawn.

Bydd y llwybr ar waelod arglawdd y rheilffordd ar gau ar gyfer adeiladu’r ffordd promenâd newydd wedi ei hail-alinio o 30 Hydref. Mae gwyriad i gerddwyr yn weithredol. Nid oes unrhyw newid i’r gwyriad cyfredol i feicwyr sydd wedi bod yn weithredol ers dechrau’r gwaith.

Diweddariad:  Mawrth 2023

Mae’r gwaith o adeiladu gwrthglawdd cerrig 720 metr o hyd yn symud ymlaen yn dda. Mae mwy na 137,000 tunnell o gerrig wedi’u eu cludo i’r safle, gan alluogi’r tîm i adeiladu 470 metr o’r amddiffynfa newydd hyd yma. Mae’r gwaith ar y trywydd iawn i gwblhau’r rhan hon o’r gwrthglawdd erbyn haf 2023.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar y platfform pysgota newydd, er mwyn darparu ardal ddynodedig ar gyfer pysgota, oddi wrth y llwybr Teithio Llesol. Rydym wedi gosod pob un o’r 14 pentwr tiwbaidd, 22 metr o hyd a 216 metr2 o ddur, ac rydym yn gosod rheiliau llaw.

Rydym wedi cwblhau 2 estyniad ceuffos trwy’r gwrthglawdd cerrig newydd, ac wedi gosod haenau pentyrru i gefnogi’r grisiau mynediad newydd i’r traeth. Yn fuan, byddwn yn ychwanegu’r concrid ar gyfer creu’r grisiau newydd, ynghyd â grisiau newydd dros grwynau cerrig presennol y traeth.

Rydym hefyd wedi dechrau adeiladu’r promenâd uwch newydd, a’r morglawdd newydd ar ben y wal bresennol ym mhen dwyreiniol y promenâd.

Bydd y gwaith hwn yn parhau trwy gydol gweddill y flwyddyn.

Diweddariad:  Ebrill 2022

Mae dros 40,000 o dunelli o greigiau a deunyddiau wedi’u mewnforio o chwareli Gogledd Cymru. Mae hyn wedi galluogi tîm y prosiect i adeiladu tua 200m o’r gwrthglawdd creigiau 370m o hyd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cam hwn y gwaith.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn dechrau gweithio ar byst y seiliau ar gyfer codi dau set newydd o risiau mynediad i’r traeth a phlatfform pysgota dynodedig.

Mae’r grisiau mynediad concrid pwrpasol a rhannau o’r wal eisoes wedi cyrraedd. Mae gan rhai o’r unedau concrid sydd wedi’u rhag-gastio arwyneb â gwead arbennig i hybu cynefinoedd bywyd gwyllt y môr.

Rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am y caniatâd cynllunio a’r trwyddedau morol y byddwn eu hangen i orffen adeiladu’r cynllun cyfan, ar gyfer camau nesaf y gwaith.

Cwestiynau Cyffredin

Beth ydych chi’n ei wneud?

Rydym yn gosod gwrthglawdd cerrig o flaen y promenâd presennol, o Rotary Way i’r ardal a adnabyddir fel Splash Point (ym mhen Bwâu Hen Golwyn o’r promenâd). Bydd y gwrthglawdd cerrig hwn yn cael ei adeiladu’r un uchder â lefel bresennol y promenâd yn y lle cyntaf.

Ar ôl derbyn rhagor o gyllid, rydym hefyd yn codi’r promenâd a’r ffordd er mwyn eu diogelu rhag effaith difrod storm arfordirol a lefel y môr yn codi.

Pan fydd cyllid ar gael ar gyfer camau eraill yn y dyfodol, byddwn yn parhau â’r gwaith hwn rhwng Rotary Way a Phorth Eirias nes bydd y rhan 1.2 cilometr gyfan o bromenâd Hen Golwyn wedi’i diogelu.

Fel rhan o’r gwaith, byddwn hefyd yn ychwanegu grisiau mynediad at y traeth trwy’r creigiau a phlatfform pysgota.

Sut mae'n gweithio?

Bydd y gwrthglawdd creigiau yn helpu i amddiffyn gwaelod wal y môr rhag cael ei thanseilio. Bydd hefyd yn amsugno egni'r tonau yn ystod stormydd, gan olygu y bydd y tonnau’n rhai llai o faint gan leihau pwysau ar y morglawdd Fictoraidd.

Pam ein bod yn gwneud y gwaith yma?

Mae gwaith yn hanfodol er mwyn cryfhau'r amddiffynfeydd môr Fictoraidd ar bromenâd Hen Golwyn. Bydd hyn yn diogelu’r promenâd, y llwybr beics cenedlaethol, prif garthffos Hen Golwyn, yr A55 a’r pontydd rheilffyrdd. Heb y gwaith hwn, mae tebygolrwydd uchel y byddai angen cau’r promenâd am gyfnod amhenodol ar ôl storm arw.

Pryd fydd y gwaith wedi’i orffen?

Bydd y gwaith ar y cam cyntaf hwn yn cymryd rhwng 12 a 18 mis, o’r dyddiad dechrau ym mis Mai 2021. Mae gennym bellach gyllid ar gyfer cam nesaf y gwaith, a disgwyliwn y bydd hynny’n dechrau yn haf 2022, unwaith bydd y gwaith presennol hwn wedi’i gwblhau.

Yn wreiddiol, roedd y cam cyntaf yn cynnwys gwrthglawdd cerrig 370 metr, codi 2 set o risiau mynediad i’r traeth a phlatfform pysgota. Roedd disgwyl i’r gwaith hwn gymryd rhwng 12 a 18 mis, o’r dyddiad dechrau ym mis Mai 2021.

Oherwydd y gwaith ychwanegol roedd modd ei gwblhau oherwydd rhagor o gyllid, bydd y rhan hon o’r promenâd ar gau am gyfnod hirach. Disgwyliwn i’r holl waith fod wedi’i gwblhau erbyn dechrau 2024.

Ai gwaith trwsio dros dro yn unig yw hwn?

Na. Y gwaith hwn yw’r cam mawr cyntaf o wneud gwelliannau i’r amddiffynfeydd arfordirol a’r promenâd yn Hen Golwyn. Dyluniwyd y cynllun fel un parhaol, sy’n cyd-fynd â chamau diweddarach rhwng Porth Eirias a Rotary Way. Mae ein cynlluniau ar gyfer camau eraill yn y dyfodol yn cynnwys codi lefel y promenâd a’r ffordd.

A fyddwn yn gallu gweld y môr o hyd neu gael mynediad at y traeth yn ystod y gwaith?

Byddwch, yn rhannol. Cyn i ni godi’r promenâd a’r ffordd i’w lefelau newydd, bydd angen i ni osod amddiffynfeydd cerrig o flaen y morglawdd i’w ddiogelu. Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, byddwn yn ymestyn uchder y morglawdd presennol gan adeiladu morglawdd newydd ar ei ben. Yna, byddwn yn gallu codi uchder y promenâd a’r ffordd i’w lefelau uwch newydd, ac ychwanegu haen ychwanegol o gerrig i ddiogelu’r morgloddiau presennol a newydd yn llawn.

Mae’r promenâd rhwng Splash Point (ger Bwâu Bae Colwyn) a Phorth Eirias yn 1.3 cilomedr (0.8 milltir) o hyd, felly byddwch yn dal i allu gweld y môr a chael mynediad at y traeth ar hyd gweddill y promenâd

Pam eich bod chi’n gwneud y gwaith hwn os nad oes gennych chi gyllid ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd?

Mae'n rhaid i ni amddiffyn promenâd Hen Golwyn rŵan. Fel arall, mae tebygolrwydd uchel y byddai angen cau’r promenâd am gyfnod amhenodol ar ôl storm arw. Rydym yn parhau i chwilio am gyllid ar gyfer y camau sydd angen eu cyflawni yn y dyfodol. Bydd cael cynlluniau ac amcangyfrif manwl o gostau o gymorth gyda hyn, ac yn golygu y gellir cychwyn y gwaith yn gynt pan fyddwn yn derbyn cyllid.

A fydd modd i gerddwyr a beicwyr barhau i ddefnyddio’r promenâd?

Na fydd. Ni fydd modd i gerddwyr a beicwyr barhau i ddefnyddio’r rhan o’r promenâd fydd ar gau yn ystod y gwaith adeiladu oherwydd y cerbydau a pheiriannau adeiladu mawr fydd yno. Mae llwybr amgen i gerddwyr ar hyd y llwybr uwch dros y ffordd i’r promenâd, a fydd ar agor pryd bynnag y bo’n bosib. Bydd beicwyr a cherbydau'n cael eu dargyfeirio ar hyd ffyrdd lleol eraill. Bydd mynediad i’r traeth wedi’i gyfyngu pan fo’r gwaith yn cael ei wneud. 

Sut fydd yn edrych? Oes modd i mi weld argraff arlunydd?

Bydd y gwrthglawdd creigiau yn debyg i beth sydd eisoes yn ei le ar ben dwyreiniol y prom, ger Bwâu Hen Golwyn.  Gallwch weld cynlluniau a dyluniadau ar gyfer y cynllun cyffredinol ar y dudalen Y Cynllun Cyffredinol.

Pam na allwn ni gael mwy o dywod?

Rydym wedi gallu ychwanegu tywod at y traeth ar yr ochr fwyaf cysgodol, i’r gorllewin o Borth Eirias. Pe baem yn rhoi tywod yn y rhan rhwng Porth Eirias a Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn), byddai’n cael ei golli’n llawer cynt nag sy’n digwydd yn rhan warchodol y bae, felly dydy hyn ddim yn gwneud synnwyr yn economaidd.

O le daw’r creigiau ar gyfer y gwrthglawdd?

Bydd yr holl greigiau’n dod o chwareli Gogledd Cymru, ond mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio ffynonellau pellach i ffwrdd os na fydd digon yno.

Pam ddaeth y gwaith gwrthgloddiau cerrig i ben yn 2021?

Mae angen cerrig arfogaeth sy'n pwyso rhwng 3 a 6 tunnell yr un ar gyfer y gwaith i amddiffyn arfordir Hen Golwyn.  Mae’r gwaith yn cynnwys cyfnodau o flastio a storio pentyrrau yn y chwarel, a chyfnodau o osod y cerrig ar y traeth.

Cyn dechrau ar y gwaith, roedd ein contractwr yn disgwyl i’w chwarel gyflenwi ddewisedig allu cynhyrchu nifer y cerrig a oedd yn angenrheidiol ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn seiliedig ar gofnodion ac allbynnau hanesyddol y chwarel.  Roedd y cerrig a gafwyd o’r gwaith blastio dechreuol a wnaethpwyd yn y chwarel ym mis Mehefin yn llawer llai addas na’r disgwyl. Nid oedd y chwarel yn gallu cynyddu ei gweithrediadau blastio nes bo’r holl gerrig eraill wedi’u prosesu a’u gwerthu i wneud lle ar gyfer mwy.

Er mwyn lleihau effaith diffyg arenillion y chwarel ddewisedig, mae ein contractwr wedi ymchwilio i ddefnyddio ffynonellau lleol eraill yng ngogledd Cymru. Cyn defnyddio’r cerrig eraill hyn, roedd rhaid iddynt gael eu profi a’u dadansoddi’n drylwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gadarn ac yn addas i amddiffyn yr arfordir.

Mae ein contractwr wedi trefnu bod y gwaith yn ail-ddechrau cyn gynted ag sy'n bosibl. Cafodd peiriannau ac offer eu symud oddi ar y prom er mwyn cadw costau i lawr tra bod ein contractwr yn disgwyl am y cyflenwad nesaf o gerrig. Yna cafodd y rhain eu symud yn ôl i’r safle gyda threfniadau cludo yn cael eu gwneud i gynaeafu, prosesu a chludo’r cerrig o nifer o chwareli.

Dechreuodd y gwaith eto ar y safle ym mis Rhagfyr 2021.

end content