Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Parcio, ffyrdd a theithio Cerbydau wedi eu gadael

Cerbydau wedi eu gadael


Summary (optional)
Cerbydau wedi eu gadael a heb eu trethu a sut i roi gwybod amdanynt.
start content

Beth yw cerbyd wedi ei adael?

Mae car wedi ei adael, neu unrhyw gerbyd arall, yn un y mae ei berchennog wedi ei adael heb unrhyw fwriad i fynd i’w nôl.

Mae dros 90% o’r adroddiadau rydym ni’n eu derbyn yn rhai ar gyfer cerbydau sydd heb eu gadael.

Nid yw cerbyd sydd wedi ei barcio am gyfnod hir o amser o reidrwydd yn gerbyd sydd wedi ei adael. Mae rhwydd hynt i fodurwyr adael cerbyd sydd wedi ei barcio'n gyfreithlon ar briffordd gyhoeddus cyhyd a bo angen (os ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio, trethu ac yswiriant).

Ni ddylech roi gwybod am gerbyd sydd wedi ei adael dim ond oherwydd ei fod:

  • heb ei drethu (gweler yr adran isod ar gerbydau heb eu trethu, HOS neu heb MOT)
  • yn mynd â lle parcio
  • y tu allan i’ch eiddo
  • mewn cyflwr gwael
  • wedi ei barcio’n anghyfreithlon

Ni fyddwn yn ymyrryd mewn unrhyw anghydfod rhwng cymdogion ynglŷn â cherbydau wedi eu parcio y tu allan i’ch eiddo.

Cerbydau heb eu trethu, HOS neu gerbydau heb MOT

Gallwch wirio a yw’ch cerbyd wedi ei drethu ar wefan GOV.UK.

Dylech adrodd gerbyd heb eu trethu ar ffordd gyhoeddus i’r DVLA ar wefan y DVLA.

Gallwch hefyd wirio a oes gan gar MOT neu Hysbysiad Oddi ar y Ffordd Statudol (HOS) ar wefan GOV.UK.
Os yw cerbyd heb MOT yn cael ei yrru ar ffordd gyhoeddus, dylech gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 101.

Cerbydau wedi eu parcio yn beryglus, cerbydau sy’n achosi rhwystr neu gerbydau wedi eu llosgi 

Mae’r Heddlu yn gallu symud unrhyw gerbyd sydd:

  • wedi ei adael mewn man peryglus
  • wedi ei losgi
  • yn torri gorchmynion rheoleiddio traffig lleol
  • yn achosi rhwystr ar ffordd gyhoeddus

Os ydych chi’n credu bod cerbyd yn cwrdd â’r meini prawf hyn, ffoniwch yr Heddlu ar 101.

Rhoi gwybod am gerbyd wedi ei adael

Cyn i chi roi gwybod am gerbyd wedi ei adael, gwnewch yn siŵr bod o leiaf tri o’r datganiadau isod yn berthnasol:

  • Nid yw’r cerbyd wedi ei drethu
  • Mae’r cerbyd wedi bod yn llonydd ers peth amser (mwy na 6 wythnos)
  • Mae’r cerbyd wedi ei ddifrodi’n sylweddol neu’n anaddas i’r ffordd fawr (e.e. teiars fflat, ffenestri/drychau wedi torri)
  • Sbwriel o gwmpas y cerbyd, llystyfiant yn tyfu o’i gwmpas neu'r gwair wedi gwywo oddi tano, sy’n dangos nad yw’r cerbyd wedi ei symud ers peth amser
  • Llwydni y tu mewn neu’r tu allan i’r cerbyd
  • Platiau rhif ar goll

Bydd arnoch chi angen yr wybodaeth ganlynol pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am gerbyd wedi ei adael:

  • A yw’r cerbyd wedi ei drethu
  • Lleoliad y cerbyd
  • Rhif cofrestru’r cerbyd
  • Gwneuthuriad / model / lliw’r cerbyd
  • Ers faint mae’r cerbyd wedi ei adael

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn asesu’r wybodaeth rydych chi wedi ei darparu ac yn penderfynu a yw’r cerbyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cerbydau wedi eu gadael. Ni fyddwn yn cymryd unrhyw gam pellach os nad ydym yn credu bod y cerbyd wedi ei adael.

Os yw’r cerbyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cerbydau wedi eu gadael, byddwn yn cymryd y camau priodol i ddelio ag o. Bydd hynny’n cynnwys:

  • asesu’r cerbyd
  •  canfod pwy yw’r perchennog
  • ysgrifennu at y perchennog
  • cyflwyno hysbysiad
  • trefnu i symud y cerbyd

Cofiwch, ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth am y perchennog cofrestredig.

end content