Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Goddefebau Parcio


Summary (optional)
 Mae goddefebau parcio yn galluogi gweithwyr, contractwyr adeiladu yn bennaf sy'n gwneud gwaith adnewyddu ar adeiladau i aros yn hirach na'r cyfyngiadau mewn grym.
start content

Gall y cyngor ddarparu goddefebau parcio am £21.50 fesul cerbyd, fesul diwrnod am gyfnod o hyd at wythnos.

Wrth i chi wneud cais am oddefeb, byddwn yn ymweld â’r safle i sicrhau ei bod yn ddiogel i gyhoeddi trwydded, yn dibynnu ar y lleoliad a'r cyfyngiad mewn grym yn yr ardal.

Ar gyfer beth mae'r oddefeb?


Bydd goddefebau ond yn cael eu rhoi mewn amgylchiadau eithriadol neu enbyd. Yn gyffredinol, dim ond er mwyn ymdopi gyda gwaith dosbarthu ac adnewyddu safleoedd mawr allai gymryd mwy na 20 munud cwblhau y mae goddefebau yn berthnasol.

Nid bwriad goddefebau yw darparu parcio “cyfleus”. Mae parcio fan sy'n cynnwys offer llaw bach neu ddeunyddiau ar gyfer gwaith y dydd neu gerbyd sy'n cludo gweithwyr i ac o safle yn cael eu hystyried yn "barcio cyfleus". Mae'r rheoliadau arferol ar gyfer llwytho / dadlwytho neu ollwng teithwyr eisoes yn cwmpasu hyn.

Sut i ymgeisio

Ar-lein

 

 

Sylwch:

  • Mae'r taliad ar gyfer asesu'r cais ac nid yw'n gwarantu cael goddefeb neu le parcio.
  • Fel arfer, bydd yn cymryd o leiaf 48 awr i brosesu cais am oddefeb parcio. Ni fydd sefyllfaoedd o argyfwng gwirioneddol yn ddarostyngedig i'r cyfnod rhybudd o 48 awr.
end content