Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Beicio yng Nghonwy


Summary (optional)
Mae beicio yn un o'r dulliau gorau i weld arfordir ardderchog Conwy a'r atyniadau deniadol, ac aros yn iach a helpu'r amgylchedd yr un pryd. 
start content

Beicio yw un o'r ffyrdd gorau o gael gweld arfordir gwych Conwy a’i atyniadau, tra hefyd yn cadw’n iach a helpu'r amgylchedd.

Teithio o gwmpas ar eich beic

Mae'r rhan fwyaf o lwybrau yng Nghonwy yn llwybrau di-draffig, sy’n darparu cyfleoedd delfrydol i feicwyr newydd a dibrofiad yn ogystal â selogion ymrwymedig. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau hefyd yn darparu cyfleusterau ardderchog ar gyfer cerddwyr, cadeiriau olwyn neu ddefnyddwyr coets symudedd.

Mae Sustrans, elusen yn y DU sy'n gweithio gyda theuluoedd, cymunedau, llunwyr polisi a nifer o sefydliadau partner, wedi cyflwyno Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys llwybr ar hyd arfordir Gogledd Cymru (Llwybr Cenedlaethol 5) sy'n cysylltu Rhyl, Bae Cinmel, Abergele, Bae Colwyn, Llandrillo yn Rhos, Llandudno a Chonwy.

Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 – Gwybodaeth a Map

Dysgwch sut i gadw’ch beic mewn cyflwr da 

Bikeability

Bikeability yw'r Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol sy'n cael ei gynnig yn Sir Conwy. Mae Lefel 1 yn cael ei gynnal ar fuarth yr ysgol ac mae'n cynnwys symudiadau sylfaenol tra bod Lefel 2 yn cael ei gynnal ar ymyl y ffordd. Mae'r hyfforddiant yn cymryd 6 i 8 awr dan arweiniad hyfforddwyr cymwys y Sir o'r Gwasanaethau Hamdden sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Adain Diogelwch y Ffyrdd. Rydym hefyd yn cynnig Lefel 3 ar gyfer plant ysgolion uwchradd ac oedolion.

Os ydych eisiau unrhyw gyngor ynglŷn â hyfforddiant Bikeability cysylltwch ag Adain Diogelwch y Ffyrdd ar 01492 575337 neu anfonwch e-bost i diogelwch.ffyrdd@conwy.gov.uk

end content