Mannau gwefru cyhoeddus
Mae mannau gwefru cyhoeddus yn Sir Conwy. Bydd Zap-Map yn dweud wrthych ble mae’r mannau gwefru, os ydynt yn weithredol a beth yw’r gost i wefru. Mae ganddo adnodd hefyd i’ch helpu i gyfrifo’r amser a’r gost i wefru yn y cartref ac ar y rhwydwaith cyhoeddus.
Mae’r Cyngor yn cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan fel rhan o unrhyw brosiectau datblygu meysydd parcio.
Rydym hefyd yn creu strategaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn gyhoeddus, a fydd yn edrych ar ddarparu mannau gwefru ym mhob un o’n meysydd parcio cyhoeddus.
Gwefru gartref
Ni ddylech wefru eich car ar y ffordd os yw’r cebl yn croesi’r palmant neu ran o’r ffordd. Mae’n drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i redeg cebl trydan dros, ar draws neu ar hyd priffordd, gan gynnwys y palmant. Gallwch wefru eich car ar ddreif preifat.
Rydym yn creu strategaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn gyhoeddus, a fydd yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer gwefru ar y stryd.
Mwy o wybodaeth