start content

Rhoi gwybod am olau stryd diffygiol
 
Defnyddiwch ein cyfleuster ‘Rhoi Gwybod’ i roi gwybod i ni am:

  • Olau nad yw'n gweithio
  • Golau'n fflachio neu'n diffodd yn ysbeidiol
  • Golau ymlaen yn ystod y dydd
  • Llystyfiant yn cuddio’r golau
  • Goleuadau croesfan sebra nad ydynt yn gweithio

Ar gyfer argyfyngau fel lampau'n gwyro, golau'n hongian, drysau ar goll neu wedi'u difrodi:

Ffoniwch  01492 575337

Rydym yn anelu at ymateb i adroddiadau nad ydynt yn rhai brys o fewn 5 diwrnod calendr.

Nid oes modd i ni atgyweirio golau stryd diffygiol bob tro. Yn aml mae'r broblem yn ymwneud â'r ceblau cyflenwi tanddaearol sy'n gyfrifoldeb i Scottish Power, sy'n gweithredu ar amser ymateb o 10 i 25 diwrnod gwaith.

 

end content