Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gorfodaeth Cynllunio


Summary (optional)
Mae'r tîm gorfodaeth cynllunio yn ymchwilio i achosion o dorri rheolau cynllunio a chymryd camau gorfodi, lle bo hynny’n hwylus
start content

O ganlyniad i brinder adnoddau, mae yna oedi ar hyn o bryd yn y gwaith o ymchwilio i gwynion ac ymateb i ymholiadau newydd. Darllenwch y cyngor isod sy’n egluro lle nad yw’n bosib i ni weithredu, a chofiwch nad ydym fel arfer yn ymchwilio i gwynion dienw.

Os ydych am roi gwybod am achos posibl o dorri rheolau cynllunio, defnyddiwch ein ffurflen gwyno ar-lein gan ddarparu:

  • eich manylion cyswllt (bydd manylion am bwy ydych chi’n cael eu cadw’n gyfrinachol, ond efallai y gofynnir i chi i ymddangos fel tyst mewn rhai achosion)
  • cyfeiriad neu leoliad y tir lle mae’r broblem
  • manylion am eich pryderon, ac
  • esboniad o sut yr effeithir arnoch chi (bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu’r gŵyn ac asesu camau priodol)

Nodwch, nid yw cwynion dienw yn cael eu hymchwilio fel arfer.

Os hoffech drafod eich pryderon yn anffurfiol cyn cyflwyno eich cwyn, cysylltwch â’r swyddog gorfodi ar y rhif ffôn canlynol: (01492) 575272.


Pan nad yw camau gorfodaeth cynllunio yn bosibl:

  1. Pan fo’r toriad yn fach heb lawer o effaith sylweddol (nid yw dibrisio'r eiddo/ddifetha golwg yn faterion cynllunio)
  2. Lle mae gwaith yn ddiogel rhag camau trwy dreigl amser (rheol 4/10 mlynedd)
  3. Anghydfod am ffiniau / parcio / perchnogaeth tir / torri cyfamod / hawl i olau
  4. Y rhan fwyaf o amgylchiadau pan gaiff  carafannau eu storio ar dramwyfeydd (ac eithrio pan fo llety hunangynhwysol ar wahân wedi cael ei greu)
  5. Busnesau bach yn cael eu rhedeg o adref lle nad oes unrhyw effaith sylweddol ar gymeriad yr ardal ac mae’r eiddo yn parhau yn brif annedd
  6. Eiddo blêr nad yw'n weladwy o ardal gyhoeddus
  7. Os nad yw eich cwyn yn fater gorfodaeth cynllunio, byddwn yn sicrhau bod eich cwyn yn cael ei chyfeirio at y tîm priodol.

Mae manylion pellach am beth rydym yn ei wneud yn cael eu nodi yn y ddogfen weithdrefn sy’n amgaeedig.
Gweithdrefnau Gorfodaeth

end content