Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Clefyd Coed Ynn


Summary (optional)
Clefyd ffyngaidd yw clefyd coed ynn sydd yn lledaenu’n gyflym ar draws y wlad ac mae’n debygol o ladd y mwyafrif helaeth o’n coed ynn.
start content

Beth ydi clefyd coed ynn?

Ynn yw un o’r rhywogaethau coed mwyaf cyffredin yng Nghonwy, ac mae’n cefnogi amrywiaeth eang o infertebrata, adar a bywyd gwyllt arall. Clefyd ffyngaidd yw clefyd coed ynn sydd yn lledaenu’n gyflym ar draws y wlad ac mae’n debygol o ladd y mwyafrif helaeth o’n coed ynn. Mae coed sydd wedi cael eu heintio yn troi’n frau wrth iddynt bydru ac fe allent ddisgyn heb rybudd. 

Beth ydym ni’n ei wneud ynglŷn â’r mater?

Ni allwn reoli lledaeniad y clefyd – caiff sborau eu cario gan y gwynt ac maent yn cael eu lledaenu dros ardal eang – dim ond rheoli effaith y clefyd allwn ni wneud.

Rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn. Mae’n nodi canlyniadau ein harolygon cychwynnol a wnaed yn 2020 a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd i fynd i’r afael â’r risgiau amgylcheddol ac i ddiogelwch y cyhoedd o ganlyniad i’r clefyd. Mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys camau adfer – byddwn yn datblygu hyn ymhellach i ddangos sut yr ydym yn bwriadu gwneud yn iawn am y golled a ddisgwylir, yn bennaf drwy ail-blannu.

Bydd ein harolygon yn parhau yn 2021, gan gynnwys holl rwydwaith ffyrdd mabwysiedig Conwy. Rydym hefyd wedi derbyn cyllid i ddechrau cwympo coed ynn sy’n beryglus oherwydd y clefyd. Mae rhai o’r coed peryglus ger ffyrdd sy’n eiddo preifat a chyfrifoldeb y perchnogion tir yw’r rhain. Efallai y byddwn yn cysylltu â pherchnogion tir fel bo’r angen i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r risg.

Beth allwch ei wneud?

Os oes gennych chi goed ynn ar eich tir, fe ddylech fod yn ymwybodol o symptomau’r clefyd ac ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â choed yn pydru yn y dyfodol.  Mae canllaw defnyddiol ar gael ar wefan y Cyngor Coed. Efallai y byddwch yn dymuno cael cyngor gan weithiwr coed cymwys sydd ag yswiriant.  Nid oes gan y Cyngor adnoddau i ddarparu’r cyngor yma.  Dylech roi sylw penodol i goed ynn sydd â’r clefyd ar eich tir lle gallant beri risg i’r cyhoedd.

Rydych chi’n gyfrifol am y coed ar eich tir, ond lle bo risg posibl i ddefnyddwyr ffyrdd, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i’ch atgoffa o’ch cyfrifoldebau a, lle bo’r angen, i ofyn i chi fynd i’r afael â’r risgiau y gall eich coed eu hachosi.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i ni symud ymlaen â’n harolygon a’r gwaith sydd yn deillio o hynny.

end content