start content

Wrth roi gwybod am unrhyw broblem gyda choed, byddai'n ddefnyddiol petaech yn gallu rhoi'r wybodaeth a ganlyn:

Union leoliad y goeden neu bwynt cyfeirio cyfagos

e.e. "tu allan i 21 Stryd Fawr" neu "ar y gyffordd gyda ffordd arall, gan enwi'r ffordd honno."

Union natur y broblem

e.e. "mae'r canghennau mor isel nes eu bod yn taro cerbydau sy'n mynd heibio'' neu "mae twll mawr ar waelod y goeden ac rwy'n poeni y gallai fod yn beryglus'' neu "mae'r gwreiddiau'n codi'r palmant gan greu rhwystrau y gallai rhywun ddisgyn drostynt.''  

Eich manylion cyswllt

Pe na fyddem ni'n gallu dod o hyd i'r broblem, byddem yn hoffi cysylltu â chi er mwyn i chi allu dangos i ni lle mae'r goeden, a hefyd fel y gallwn gysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich ymholiad/cwyn.

Cysylltwch â'n Tîm Cyngor Amgylcheddol ar 01492 575337.

end content