Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cynllunio, Rheoli Adeiladu, a Chadwraeth Coed a Gwrychoedd Uchel Cais am ganiatâd i dorri neu gyflawni gwaith ar goeden

Cais am ganiatâd i dorri neu gyflawni gwaith ar goeden


Summary (optional)
Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd ysgrifenedig i dorri, difrigo, tocio neu frigdorri coed.
start content

Mae’n bosibl y caiff coed eu diogelu oherwydd Gorchymyn Diogelu Coed; oherwydd eu bod yn disgyn o fewn Ardal Gadwraeth; neu oherwydd eu bod yn destun Amod sy’n gysylltiedig â Chaniatâd Cynllunio.

Os ydych yn ystyried gwneud gwaith ar goeden neu wrych, gall y Swyddog Coed a Thirwedd ddweud wrthych a oes unrhyw fesur diogelu yn bodoli.

Gwybodaeth bellach

Anfon Cais trwy’r Post neu Ar-lein

Byddem bob amser yn argymell eich bod yn gwneud cais ar-lein. Ond gallwch hefyd ddefnyddio ein Dewiswr Ffurflen Bapur i lawrlwytho ffurflenni ar ffurf dogfennau PDF er mwyn eich caniatáu i’w hargraffu a’u defnyddio pan nad ydynt ar-lein.

Os yw’n well gennych, gallwch lenwi’ch ffurflen gais ac anfon dogfennau ategol a ffioedd trwy’r post.

Nid yw’r ffurflenni hyn yn rhyngweithiol a bydd angen i chi eu hargraffu cyn y gallwch eu llenwi.

Sylwch nad oes modd i gais cynllunio gael ei symud ymlaen nes bo’r holl wybodaeth ategol angenrheidiol a’r ffi briodol wedi’u derbyn.

end content