Gall chwyn ddinistrio wynebau pe na bai'n cael ei drin, gall ddal sbwriel a chreu peryglon baglu. Fel arfer rhoddir y driniaeth gyntaf ym mis Mai/ Mehefin a'r ail ym mis Medi/ Hydref. Mae'n drosedd caniatáu mathau penodol o chwyn i ledaenu ar y briffordd o dir cyfagos, mae'r chwyn hyn wedi eu rhestru yn Neddf Chwyn 1959.
Sut caiff chwyn eu trin?
Caiff y chwyn ei chwistrellu gyda chwyn laddwr sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae'r chwyn laddwr a ddefnyddiwn â gwenwyn isel iawn ac mae'n ddiogel i'w ddefnyddio mewn mannau agored a ddefnyddir gan y cyhoedd a'u hanifeiliaid anwes.
Llysiau'r Gingroen
Gall y chwyn hwn achosi salwch difrifol neu hyd yn oed ladd da byw pe bwyteir digon ohono. Mae'n ddyletswydd arnom i reoli Llysiau'r Gingroen ar dir priffyrdd gyferbyn â chaeau ble mae da byw yn pori neu ble caiff da byw eu bwydo. Nid yw'n bolisi gennym i reoli Llysiau'r Gingroen yn unman arall gan ei fod yn rhan bwysig o fioamrywiaeth Conwy. Weithiau mae'n rhaid i ni ei dynnu â llaw os yw'r driniaeth gemegol yn peri risg i rywogaethau eraill o fflora/ ffawna.
Clymlys Japan
Dyma chwyn dyfal, sy'n gallu addasu a gall dyfu o ddarnau bach o'r planhigyn a lledu'n hawdd iawn. Trwy drin yr ardaloedd yr effeithir arno yn rheolaidd gobeithiwn y gellir cadw'r chwyn hwn dan reolaeth mewn modd cost effeithiol.
Cysylltwch â ni
Swyddfeydd Mochdre
Conway Road
Mochdre
LL28 5AB