Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwybodaeth Gyffredinol – Coed a Gwrychoedd


Summary (optional)
Rydym yn gyfrifol am lawer o goed, gan gynnwys ar ein strydoedd, mewn parciau a choetiroedd, ac ar dir ysgolion.

Mae gwrychoedd a choed sy'n tyfu ar hyd ffiniau gyda ffyrdd fel arfer yn perthyn i dirfeddianwyr cyfagos.
start content

Rydym yn gyfrifol am lawer o goed, megis coed ar strydoedd, mewn parciau a rhandiroedd, mewn coetiroedd, meysydd chwarae ac ar dir ysgolion.  

Mae gwrychoedd, coed a llwyni sy'n tyfu ar hyd ffiniau gyda ffyrdd a llwybrau troed fel arfer yn perthyn i dirfeddianwyr cyfagos. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am reoli coed sy’n perthyn i ni ar briffyrdd yn unig.

Coed sy’n perthyn i’r Cyngor

Rydym yn cymryd rheoli a chynnal a chadw ein coed o ddifrif. Mae gennym raglen o archwiliadau rheolaidd i gofnodi cyflwr ein coed, ac i weithredu os oes angen.  Rydym yn ymateb i geisiadau neu bryderon am gyflwr ein coed neu eu rheolaeth.

Byddwn yn asesu ceisiadau am:

  • Ddiogelwch y ffyrdd
  • Pryderon am gyflwr cyffredinol coeden
  • Coed sydd wedi disgyn
  • Canghennau sy’n hongian
  • Gwreiddiau coed sy’n achosi difrod neu sy’n codi’r palmant
  • Cynnal a chadw coed sydd ar strydoedd

Mae rhai problemau sy’n ymwneud â choed nad ydym yn eu trin.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Lleihau cysgod sy'n cael ei achosi gan goed ar dir neu eiddo cyfagos
  • clirio canghennau sy’n cyffwrdd llinellau a cheblau cyfleusterau uwchben (cysylltwch â’r cwmni cyfleusterau perthnasol)
  • clirio canghennau sy’n hongian dros eiddo (ac eithrio canghennau sy’n risg annerbyniol) - cewch dorri unrhyw ganghennau sy’n hongian dros ffin eich eiddo
  • Gostwng uchder coeden, ac eithrio bod arbenigwr coed yn ystyried bod yr uchder yn beryglus
  • cynnal gwaith ar goed oherwydd eu bod yn amharu ar signalau teledu neu radio
  • Cynnal gwaith oherwydd bod dail a dyddodion eraill megis sudd, blodau, cynffonau ŵyn bach, ffrwythau, cnau, aeron, conau a thail adar wedi disgyn
  • tocio coed i wella golygfa

 

Mae coed ar dir sy'n cael eu rheoli gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy yn gyfrifoldeb iddynt hwy. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol ar ymholiadau@cartreficonwy.org neu dros y ffôn ar 0300 124 0040.

 

Coed ger priffyrdd

Cyfrifoldeb Tirfeddianwyr
Perchnogion tir sydd yn gyfrifol am goed a llystyfiant sydd yn tyfu ar eu heiddo. Mae gennych ddyletswydd i gadw’r rhain yn daclus fel nad ydynt yn rhwystro’r briffordd neu’n achosi perygl. Bydd archwilio coed yn rheolaidd yn lleihau’r atebolrwydd mewn damweiniau.

Os nad ydych chi’n cynnal a chadw eich coed, gwrychoedd neu lystyfiant i safon dderbyniol, byddwn yn gofyn i chi gymryd camau gweithredu. Mae Deddf Priffyrdd 1980 yn caniatáu i ni rybuddio perchnogion tir, a fydd yn gofyn i chi gynnal a chadw coed a llystyfiant sy’n hongian, a all effeithio ar ddiogelwch priffyrdd. Rydym yn rhoi digon o amser i berchnogion gynnal y gwaith hwn cyn dosbarthu rhybudd ffurfiol. Rydym eisiau cydweithredu bob amser cyn gorfod cymryd camau cyfreithiol.  Os nad ydych chi’n gweithredu, efallai bydd y Cyngor yn cynnal y gwaith angenrheidiol, ac yn adfer y costau gennych chi, berchennog y tir.

Os nad oes perygl uniongyrchol, rydym yn gofyn i chi docio eich coed a’ch gwrychoedd yn ystod yr hydref a'r gaeaf, i osgoi amharu ar adar a mamaliaid bach sy'n nythu. Mae hyn yn unol â ‘Chod Ymarfer Da ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd’.

Llwybrau Troed (palmentydd): dylai bod digon o led i ganiatáu i gerddwyr, pramiau a chadeiriau olwyn basio’n ddiogel.

Ffyrdd:  Dylai fod digon o le i gerbydau gael mynediad, ac eithrio bod Gorchymyn Traffig yn cyfyngu ar faint neu uchder cerbydau a all ddefnyddio ffyrdd penodol.

Pan fyddwch yn torri eich gwrychoedd, dylech gael gwared ar unrhyw doriadau sy'n disgyn ar ffordd neu lwybr troed yn syth. Mae toriadau gwrychoedd sy’n cael eu gadel ar ffyrdd yn beryglus – efallai bydd pobl yn cael anaf, neu feicwyr yn cael twll yn eu teiar. Rhaid i chi hefyd gael gwared ar unrhyw doriadau sy'n syrthio mewn i ffosydd ar ochr y ffordd, i gridiau draenio a gylïau ffyrdd (sydd wedi’u torri i mewn i ochrau ffyrdd i helpu gyda draenio ffyrdd).

Gallwch gael cymorth ar a yw coeden wedi’i gwarchod dan gyfraith gyda Gorchymyn Diogelu Coed gan Wasanaethau Rheoleiddio’r Cyngor ar cynllunioplanning@conwy.gov.uk.


 

Cysylltwch â ni

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Blwch Post 1
CONWY
LL30 9GN

E-bost:  affch@conwy.gov.uk

Adrodd coeden ar-lein

Ffôn: 01492 575337

Rhagor o wybodaeth

Coed a Gwrychoedd ar Ymylon Ffyrdd (PDF)

end content