Gellir mynd a’r rhan fwyaf o eitemau yn rhad ac am ddim i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Faint fydd y gost?
Rydym yn cynnig casglu un eitem o wastraff swmpus am ddim y flwyddyn i holl aelwydydd Conwy (heb gynnwys nwyddau gwynion). Gallwn gasglu pum eitem ychwanegol ar yr un pryd am £5.50 yr eitem. I hawlio eich casgliad am ddim, ffoniwch ein tîm cynghori Cwsmeriaid ar 01492 575337. Nid yw’r casgliad am ddim hwn ar gael i’w archebu ar ein ffurflen ar-lein.
Cost y casgliadau yw £27.50 am hyd at chwe eitem (heb gynnwys nwyddau gwynion).
Wrth archebu casgliad, rhaid i chi gael rhestr o'r holl eitemau rydych am i ni eu casglu – gallwch archebu uchafswm o 6 eitem. Ni fyddwn yn casglu unrhyw eitemau nad ydych wedi eu nodi.
Cost casgliadau nwyddau gwynion yw £23.00 yr eitem – oergell sengl, rhewgell, oergell/rhewgell, peiriant golchi, peiriant golchi llestri, peiriant sychu dillad neu bopty. Gallwn gasglu pum eitem ychwanegol ar yr un pryd am £5.50 yr eitem (heb gynnwys nwyddau gwynion).
Ein diffiniad o ‘eitem swmpus’ yw rhywbeth y gall dau swyddog casglu ei godi heb ddefnyddio unrhyw offer codi.
Enghreifftiau o eitemau y gallwch drefnu iddynt gael eu casglu:
- Dodrefn megis soffas, cadeiriau, byrddau, cypyrddau dillad
- Nwyddau trydanol mawr fel setiau teledu, peiriannau torri gwair, cyfrifiaduron neu eitemau eraill na fyddent yn ffitio yn eich bag pinc Crest ar gyfer casglu o ymyl y palmant
- Gwlâu – sylwch fod pennau gwlâu, fframiau gwely a matresi yn cael eu cyfrif fel eitemau ar wahân
- Drysau mewnol
- Nwyddau gwyn fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau sychu dillad, peiriannau golchi
Bydd rhai eitemau mawr iawn yn cyfrif fel dwy eitem. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Soffas cornel
- Gwlâu trydan y gellir eu haddasu (mae gwely sengl yn cyfri fel dwy eitem, a gwely dwbl yn cyfri fel tair eitem)
Enghreifftiau o eitemau na fyddwn yn eu casglu:
- Gwastraff DIY / Dymchwel fel rwbel, brics, priddoedd, byrddau plastr
- Eitemau neu ddeunyddiau sy'n weddill o brosiectau DIY megis swît ystafelloedd ymolchi, cypyrddau cegin, ffenestri neu ddrysau allanol
Os hoffech chi daflu'r math yma o eitem, gallwch eu cymryd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (codir tâl), llosgi sgip, neu ofyn i'ch crefftwr fynd â nhw gyda nhw.
- Deunydd ailgylchu cyffredinol y cartref neu wastraff cyffredinol yr ydym yn casglu fel rhan o’ch gwasanaeth casglu gwastraff y cartref rheolaidd
- Gwastraff Gardd
- Gwastraff peryglus fel asbestos, diesel/petrol neu olew tanwydd arall, neu gynhwyswyr tanwydd
- Deunyddiau ffrwydrol megis ffrwydron, tân gwyllt neu fflachiadau morol
- Oergelloedd neu rewgelloedd nad ydynt yn wag (tynnwch unrhyw fwyd neu eitemau eraill allan cyn i ni gasglu os gwelwch yn dda)
- Carpedi (gallwch fynd â charped i un o’r Safleoedd Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref yn rhad ac am ddim, yn amodol ar rai cyfyngiadau, neu gallwch ofyn i bwy bynnag sy’n gosod eich carped newydd fynd â’r hen un ymaith)
- Eitemau mawr iawn fel pianos, byrddau pŵl, oergelloedd/rhewgelloedd steil Americanaidd masnachol neu fawr
- Unrhyw eitemau y mae angen offer codi arbenigol, neu na fyddent efallai yn ffitio yn y cerbyd casglu
Rydym yn mynd ag eitemau i’n Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre i’w prosesu, felly os yw eich eitem wedi ei gyfyngu/gwahardd dan ein Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yna ni fyddwch yn gallu archebu casgliad ar ei gyfer.
Sut ydw i’n archebu casgliad?
Gallwch archebu casgliad gwastraff swmpus ar-lein gan ddefnyddio ein porth talu.
Yna, gallwch ddewis yr opsiwn cywir ar gyfer eich casgliad a thalu amdano. Bydd y tîm casglu yn cysylltu â chi i gadarnhau dyddiad cyfleus. Gallwch hefyd ffonio’r Tîm Cyngor Amgylcheddol ar 01492 575337, e-bost affch@conwy.gov.uk neu cysylltwch â ni yma.
I drefnu eich casgliad o nwyddau gwynion, ffoniwch 01492 575337. Ni allwch archebu’r casgliad hwn drwy ein ffurflen ar-lein ar hyn o bryd.
I hawlio eich casgliad am ddim, ffoniwch ein tîm cynghori Cwsmeriaid ar 01492 575337. Nid yw’r casgliad am ddim hwn ar gael i’w archebu ar ein ffurflen ar-lein.
Os byddwch angen newid eich archeb, gwnewch hynny ddim hwyrach na 2 ddiwrnod gwaith cyn eich dyddiad casglu drwy ffonio ein tîm cyngor i gwsmeriaid ar 01492 575337.
Pa mor fuan fyddwch chi’n casglu fy eitemau?
Unwaith y bydd yr eitemau wedi cael eu harchebu ac wedi’u talu amdanynt, bydd ein Tîm Casgliadau yn eich ffonio i roi dyddiad casglu i chi. Bydd y dyddiad casglu o fewn 15 niwrnod gwaith i dderbyn taliad.
Beth sydd angen i mi ei wneud ar fy niwrnod casglu?
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod yr eitemau tu allan i’ch eiddo erbyn 08:00 ar ddiwrnod eich casgliad. Os yw’r tywydd yn wael, gorchuddiwch yr eitemau os gallwch chi.
Bydd yr holl eitemau yn cael eu casglu rhwng 08:00-17:00. Sylwer na allwn roi amser penodol. Nid oes angen i chi aros i mewn ar gyfer y tîm casglu os yw eich eitemau yn hawdd i’w gweld ac yn hawdd mynd atynt.
PWYSIG: Ni fydd y timau casglu yn mynd i mewn i'ch eiddo i nôl yr eitemau, ac nid ydynt yn gymwys i ddatgysylltu unrhyw wasanaethau. Os oes angen cymorth arnoch i ddod â'r eitemau o flaen eich eiddo, dylech ofyn i berthynas neu ffrind i'ch helpu i gael eich eitemau yn barod i'w casglu.
Os gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn a’r Gasgliadau Gwastraff Swmpus, peidiwch a phetruso i gysylltu â ni.
Ailddefnyddio – sut i osgoi tirlenwi