Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gofyn am fin ychwanegol


Summary (optional)
Mae hawl gan bob aelwyd yng Nghonwy i gael 1 bin du 240L bin du. Gall aelwydydd mwy o faint wneud cais am ail fin.
start content

Os ydych yn byw mewn fflat neu adeilad sy’n cael ei rannu ac yn credu eich bod angen mwy o gynwysyddion ailgylchu neu finiau gwastraff, cysylltwch â ni. Gweler yr adran Sut i Ymgeisio isod.

Os oes llai na 6 o bobl yn eich aelwyd, ond eich bod yn cael trafferth gyda diffyg lle yn eich bin, cysylltwch â ni. Byddwn yn trefnu bod swyddog ailgylchu yn ymweld â chi, a fydd yn gallu argymell ail fin i chi os oes ei angen.

Os ydych yn byw mewn fflat neu adeilad sy’n cael ei rannu ac yn credu eich bod angen mwy o gynwysyddion ailgylchu neu finiau gwastraff, cysylltwch â'n tîm.

Beth sy’n llenwi eich bin sbwriel?

Plastig, caniau, papur, bwyd - archebwch gynwysyddion ailgylchu a gwastraff bwyd ychwanegol

Clytiau neu gynhyrchion anymataliaeth - gwnewch gais am gasgliad wythnosol

Dim un o’r rhain, dim ond eitemau nad yw’n bosibl eu hailgylchu sydd yn fy min sbwriel (bagiau plastig a deunydd lapio plastig, ffilm blastig, pacedi creision, gwastraff anifeiliaid, polystyren a llwch o’r sugnwr llwch).

Sut i wneud cais

Os ydych chi’n ailgylchu popeth y gallwch chi ond yn dal angen rhagor o le yn eich bin ar olwynion, bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni fod o leiaf 6 o breswylwyr parhaol yn eich aelwyd wrth i chi wneud y cais.

Gallwch wneud cais ar-lein, drwy e-bost i affch@conwy.gov.uk neu anfon cais drwy’r post i:

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Blwch Post 1
CONWY
LL30 9GN

 

Beth i’w gynnwys gyda’ch cais

  • Eich enw llawn a'ch cyfeiriad.
  • Pam fod angen ail fil arnoch chi
  • Prawf o ddeiliadaeth am o leiaf 6 aelod o'ch cartref, ynghlwm fel sganiau neu ffotograffau clir. PEIDIWCH AG ANFON DOGFENNAU GWREIDDIOL.

Gall prawf preswylio fod yn:

Oedolion:

  • Bil Treth y Cyngor diweddar*
  • Bil cyfleustod diweddar* neu gyfriflen banc
  • Llythyr Adran Gwaith a Phensiynau neu Dreth Credyd diweddar* (fel Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith)
  • Cerdyn Meddygol GIG
  • Trwydded Gyrrwr

Plant:

  • Cerdyn Meddygol GIG
  • Llythyr Credyd Treth Plant diweddar*
  • Datganiad Cyfrif Cynilo Plant neu Gyfriflen Banc
  • Tystysgrif Geni (o dan 16 oed yn unig) **
  • Pasport (o dan 16 oed yn unig) **

 * Rhaid i ddogfennau diweddar fod yn llai na 6 mis oed

** Byddwn ond yn derbyn tystysgrif geni neu basport ar gyfer dibynnydd (plentyn o dan 16 oed) os nad oes gennych unrhyw ddogfen arall yn dangos eu cyfeiriad. Ni fyddwn yn derbyn pasportau neu dystysgrifau geni fel prawf o breswylio ar gyfer oedolion.

PWYSIG: Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni bob 2 flynedd i roi gwybod i ni os ydych eisiau cadw eich ail fin. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, byddwn yn mynd â’ch bin i ffwrdd heb rybudd.

Mae gennym yr hawl i fynd â’ch ail fin i ffwrdd ar unrhyw adeg, ac nid oes rhaid i ni roi rhybudd i chi. Byddwn yn mynd a’ch ail fin i ffwrdd am resymau fel:

  • eich bod yn rhoi deunydd i’w ailgylchu yn eich biniau ar olwynion
  • Nid ydych wedi rhoi eich ail fin allan i'w gasglu am nifer o wythnosau
  • Rydych yn defnyddio eich bin i gael gwared ar wastraff busnes yn anghyfreithlon
  • Nid ydych wedi rhoi gwybod i ni os ydych dal angen eich ail fin ar ôl 2 flynedd

 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Polisi Ail Fin neu'r broses ymgeisio, llenwch ein ffurflen ar-lein.

end content