Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Pa gynhwysydd ddylwn i ei ddefnyddio?

Pa gynhwysydd ddylwn i ei ddefnyddio?


Summary (optional)
Dewch i wybod pa eitemau y gallwch chi eu hailgylchu a pha fin neu gynhwysydd y dylech ei ddefnyddio.
start content

 

Gallwch weld y wybodaeth ailgylchu mewn Iaith Arwyddion Prydain yma.

Math o GynhwysyddDeunyddiau
Trolibocs (blwch uchaf) neu Fag Gwyrdd
trolibocs
Papur newydd
Papur swyddfa
Cylchgronau
Post sothach
Amlenni gwyn a lliw
Cyfeirlyfrau
Catalogau
Cardiau cyfarch
Cardiau llwyd a gwyn
Llyfrau heb feingefn neu gloriau
Trolibocs (blwch canol) neu Fag Gwyn
large-white-bag

Poteli plastig
Cynwysyddion plastig a thybiau
Cartonau diod
Cartonau Tetra Pak
Caniau a thuniau bwyd a diod
Erosolau
Ffoil

Dim bagiau plastig na deunydd lapio plastig, dim plastig caled fel teganau neu fowlenni golchi llestri.

Golchwch cyn i chi ailgylchu - gwasgwch eich deunydd ailgylchi i greu mwy o le.

Trolibocs (blwch gwaelod) neu Flwch Gwyrdd
green-box

Poteli a jariau yn unig
Cardbord brown
Amlenni brown
Papur brown
Tiwbiau papur toiled

Dim gwydr wedi torri - lapiwch wydr a llestri wedi torri yn ddiogel a’u rhoi yn eich bin du.

Bin Gwastraff Bwyd
food-containers-blue

Cig
Pysgod
Esgyrn
Ffrwythau
Llysiau
Pasta
Bara
Bagiau te
Papur cegin
Bwyd Anifeiliaid Anwes

Dim gwastraff anifeiliaid anwes.

Bag batris
battery-bag
Batris cartref
Batris y gellir eu hailwefru
Bag Tecstilau
crest-purple

Dillad glân
Esgidiau (wedi’u clymu mewn parau)
Bagiau llaw
Beltiau

Peidiwch â rhoi bric-a-brac yn eich bag casglu tecstilau piws os gwelwch yn dda.

Cysylltwch â Crest i gael bagiau piws eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.

Os ydych yn byw mewn ardal wledig ffoniwch 01492 596783 i drefnu eich casgliad.

Bag Eitemau Electronig Bach
crest-pink

Unrhyw offer bach sy'n ffitio yn y bag, e.e. Teganau electronig
Gliniaduron
Ffonau Symudol
Chwaraewyr CD/DVD
Consolau
Eillwyr
Sychwyr/sythwyr gwallt.

Cysylltwch â Crest i gael bagiau pinc eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk. Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.

Os ydych yn byw mewn ardal wledig ffoniwch 01492 596783 i drefnu eich casgliad.

Bag Podiau Coffi Podback
podback

Dylech ailgylchu podiau plastig ac alwminiwm gan ddefnyddio bagiau casglu Podback - bagiau gwyn ar gyfer podiau alwminiwm, bagiau gwyrdd ar gyfer podiau plastig.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback i gael bagiau.

Cofrestrwch ac archebwch eich bagiau ailgylchu AM DDIM ar wefan Podback.

Bin Sbwriel
refusebin

Bagiau a deunydd lapio plastig
Ffilm blastig
Gwastraff anifeiliaid
Pecynnau creision
Polystyren
Clytiau

Lapiwch wydr a llestri wedi torri yn ddiogel a’u rhoi yn eich bin du.


Os yw’r criw casglu yn sylwi are item anghywir yn eich Trolibocs (megis ffilm plastig yn y bocs plastig) bydd yr eitem hon yn cael ei gadael ar ôl.

Deunydd lapio plastig a bagiau plastig

Ni allwn gymryd y rhain yn eich bocsys ailgylchu ymyl y ffordd. Mae yna fannau casglu mewn llawer o archfarchnadoedd lleol. Gall gwefan Cymru Yn Ailgylchu eich helpu i ddod o hyd i'ch man casglu agosaf.

Bylbiau golau

Gallwch ailgylchu bylbiau golau rhad-ar-ynni yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a rhai siopau.

Nid oes modd ailgylchu bylbiau hŷn ‘traddodiadol’ a dylid eu rhoi yn eich bin du.

Clytiau a chynhyrchion anymataliaeth

Ydych chi’n defnyddio llawer o glytiau neu gynhyrchion anymataliaeth? Dewch i wybod mwy am ein Gwasanaeth Casglu Clytiau Tafladwy a Chynhyrchion Anymataliaeth.

Gwastraff meddygol


Rhaid mynd â nodwyddau a chwistrellau
i fan cyfnewid nodwyddau - holwch eich meddyg os nad oes gennych flwch offer miniog.

Os oes gennych wastraff clinigol heintus cysylltwch â'ch nyrs gymunedol i drefnu gwasanaeth casglu gwastraff clinigol gan y Bwrdd Iechyd.

Dal ddim yn siŵr?

Os nad ydych yn siŵr pa fin neu gynhwysydd y dylech ei ddefnyddio neu os oes angen cyngor arnoch ar ailgylchu cysylltwch â'r Tîm Cynghori neu ffonio 01492 575337.

Gallwch hefyd anfon llun o unrhyw eitem nad ydych yn siŵr ohonynt i affch@conwy.gov.uk , a gallwn roi gwybod i chi a oes modd ei ailgylchu.



end content