Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Gwneud cais am Focs/Bag/Bin Ailgylchu Newydd
start content

Oes arnoch chi angen cynhwysydd neu fin ychwanegol neu newydd?

Gwneud cais am fagiau gwastraff bwyd

Clymwch y tag melyn a ddaeth gyda’ch bagiau bwyd ar handlen eich cadi bwyd y tu allan ac fe fyddwn yn gadael mwy o fagiau i chi ar eich diwrnod casglu. Gallwch hefyd gael mwy o fagiau gwastraff bwyd o’ch llyfrgell leol.

Gwneud cais am fagiau tecstilau a thrydanol (piws a phinc)

Cysylltwch â Crest i gael bagiau eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk.

Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.

Gwneud cais am fagiau ailgylchi podiau coffi

Ewich i wefan Podback a defnyddiwch y ffurflen gysylltu er mwyn archebu rholyn ychwanegol o fagiau casglu ymyl y palmant.

Gwneud cais am gynwysyddion ailgylchu a biniau

  • Defnyddiwch un o'r ffurflenni isod i wneud cais am yr hyn sydd ei angen arnoch.
  • Sylwch, byddwn yn ceisio trwsio biniau ar olwynion a chynwysyddion a ddifrodwyd cyn i ni roi un newydd
  • Mae’n bosibl na fydd y cynhwysydd y byddwn ni’n ei roi i chi yn newydd sbon – rydym ni’n ailddefnyddio cynwysyddion ail law sy’n dal i fod yn addas.
  • Dim ond 1 trolibocs ac 1 bag ailgylchu cardfwrdd yr ydym yn eu darparu fesul aelwyd. Rydym hefyd yn gallu darparu 1 blwch gwyrdd ac 1 bag glas ar gais. Os oes gennych chi’r cynwysyddion hyn eisoes, peidiwch ag archebu rhai ychwanegol. Nid yw ein criwiau ailgylchu yn gallu gwagio cynwysyddion ychwanegol.

 

end content