Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Oedolion Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed

Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed


Summary (optional)
start content

Cafodd y cysyniad o ddinasoedd neu gymunedau sy'n gyfeillgar i oed ei ddatblygu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhan o fenter fyd-eang i adnabod y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i ddinasoedd a chymunedau addasu i ac elwa o boblogaethau sy’n heneiddio.

Mae Conwy wedi ymrwymo i fod yn gymuned sy’n gyfeillgar i oed, ac rydym yn gweithio tuag at ennill y statws hwn.

Beth yw cymunedau sy'n gyfeillgar i oed?

Mae cymuned sy’n gyfeillgar i oed yn creu amgylchedd sydd yn galluogi pobl o bob oed i heneiddio’n dda drwy ddarparu cyfleoedd i fod yn iach, heini a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.  Maen nhw’n arbennig o bwysig i alluogi pobl hŷn i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu ac i:

  • fynd allan o gwmpas
  • gwneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud
  • derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
  • byw bywydau iach ac egnïol
  • cael llais

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymrwymo i gefnogi creu cymunedau sy'n gyfeillgar i oed ar draws Cymru.  Drwy weithredu ei strategaeth Cymru o Blaid Pobl Hŷn, mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol yng Nghymru i weithio gyda’r Comisiynydd i fod yn gyfeillgar i oed.  Mae’r broses o ddod yn gyfeillgar i oed yn cynnwys unigolion, grwpiau lleol, gwasanaethau a busnesau sy’n dod at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol i alluogi pobl i heneiddio’n dda.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ni weithio tuag at ennill statws cyfeillgar i oed.

Dolenni defnyddiol a darllen pellach

end content