Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Oedolion Dewisiadau o ran Tai i Bobl Hŷn

Dewisiadau o ran Tai i Bobl Hŷn


Summary (optional)
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn meddwl symud i dŷ gwarchod, tŷ gofal ychwanegol neu i gartref gofal, gallwn eich helpu i ystyried eich opsiynau.
start content

Tai Gofal Ychwanegol

Mae tai gofal ychwanegol yn rhoi cyfle i bobl dros chwe deg fyw yn eu cartref eu hunain ac i gael cefnogaeth gan dîm pwrpasol ar y safle 24 awr y dydd.

Rydych yn byw yn eich eiddo hunangynhwysol eich hun, nid mewn cartref preswyl, ac mae gennych eich drws ffrynt eich hun, fel y gallwch benderfynu pwy sy'n dod i mewn.

Os yw asesiad o'ch anghenion yn nodi eich bod yn gymwys i gael cefnogaeth, byddwch yn ei chael gan y tîm ar y safle. Bydd math a faint o gefnogaeth a gewch yn newid wrth i'ch anghenion newid dros amser.

Dyma fwy o fanteision tai gofal ychwanegol:

  • gall cyplau a ffrindiau aros gyda'i gilydd
  • gallwch gadw eich annibyniaeth 
  • gallwch ymuno mewn gweithgareddau cymdeithasol 
  • mae gennych reolaeth dros eich arian 
  • mae gennych sicrwydd a thawelwch meddwl
  • mae gennych gartref am oes cyn belled â'i fod yn ddiogel ac yn ymarferol.

Mae pedwar cynllun tai gofal ychwanegol yng Nghonwy sy’n cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai lleol mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol:

  1. Hafod Y Parc, Abergele
  2. Tan y Fron, Llandudno
  3. Llys y Coed, Llanfairfechan
  4. Hafan Gwydir, Llanrwst

Tai Gwarchod

Os ydych yn 55 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am dŷ gwarchod.  Mae'r math hwn o dŷ fel arfer yn cynnwys fflatiau stiwdio, fflatiau un neu ddwy ystafell wely neu fyngalos. Mae'r cartrefi hyn yn cael eu cysylltu â system larwm argyfwng 24 awr i'r warden yn ystod oriau swyddfa ac i Ganolfan Rheoli’r Llinell Ofal ar bob adeg arall.

Mae gan dai gwarchod wardeiniaid dynodedig, sy'n rhoi cyngor, yn gwneud yn siŵr eich bod yn ymdopi, yn eich helpu i drefnu unrhyw help rydych ei angen, ac yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau. Gall tai gwarchod eich helpu i fyw'n annibynnol, a’ch cyflwyno i gymuned. Mae gan rai weithgareddau cymunedol a lolfeydd cymunedol fel y gall pobl gael cwmni os ydynt yn dymuno hynny, a phreifatrwydd pan nad ydynt eisiau hynny.

Os hoffech wneud cais am Dŷ Gwarchod:

Ewch i Tai Conwy
neu ffoniwch 0300 124 0050

Cartrefi Gofal

Mae cartrefi gofal yn darparu llety cyfforddus gyda staff hyfforddedig wrth law i ofalu am eich anghenion ddydd a nos.

Mae dau fath o gartref gofal: 

  • Cartrefi gofal preswyl gyda staff hyfforddedig sy'n gallu cynnig yr un math o ofal y byddech yn ei gael gan eich perthnasau a’ch ffrindiau.
  • Cartrefi nyrsio sy'n darparu'r un lefel o ofal â chartrefi gofal preswyl, ond hefyd â nyrsys hyfforddedig ar ddyletswydd i ddarparu gofal nyrsio medrus pan fyddwch ei angen.


Sut i ddod o hyd i gartref gofal neu wneud cais i fyw mewn cartref gofal

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt yn ystyried gwneud cartref gofal yn lle parhaol i fyw ynddo, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf. Gallwn drafod y broses asesu gyda chi a sut i ddewis cartref gofal. Gallwch hefyd gael rhywfaint o awgrymiadau a chyngor ar sut i ddewis cartref gofal.

Mae gwefan Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd yn adnodd da. Gallwch chwilio am gartrefi gofal yn ôl eich anghenion, er enghraifft, yn ôl lleoliad neu a oes angen gofal nyrsio arnoch.

A oes rhaid i mi dalu?

Efallai y bydd angen i chi wneud cyfraniad tuag at y gost o fyw mewn cartref gofal, yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol. Byddwn yn trefnu asesiad ariannol er mwyn sefydlu pa gostau y bydd angen i chi eu talu, os bydd rhai o gwbl. Byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Dewch o hyd i wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol sydd ar gael yn y sir ar wefan Dewis.

end content