Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trefnu eich gofal eich hun


Summary (optional)
Wrth i’ch amgylchiadau newid, efallai y byddwch yn gweld nad ydych yn gallu ymdopi cystal ag yr oeddech yn eich cartref. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i wneud bywyd yn haws, fel y gallwch barhau i fyw yn eich cartref eich hun am gyhyd ag y bo modd.
start content

Hyd yn oed os nad ydych eisiau cefnogaeth, mae’r drafodaeth hon yn ddefnyddiol fel ffordd o nodi pa gefnogaeth a allai fod o fudd i chi; efallai y byddwn hefyd yn eich cyfeirio at asiantaethau allanol. Efallai y cytunir ar roi rhywfaint o gymorth a chefnogaeth tymor byr i'ch helpu i gynyddu eich annibyniaeth a lles. Rydym yn galw hyn yn 'ail-alluogi' a gall eich ymgynghorydd gofal cwsmeriaid egluro'r gwasanaeth hwn yn fwy manwl.

Talu am Eich Gofal yn Breifat

Gallwch dalu am eich gofal yn breifat, er enghraifft drwy yswiriant gofal tymor hir, neu'n rhannol neu'n gyfan gwbl trwy fudd-daliadau a hawliadau ariannol eraill sy’n gysylltiedig ag anabledd. Dewch i wybod am ba fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Os byddai’n well gennych wneud eich trefniadau gofal eich hun yn breifat, neu os ydych wedi cael asesiad ac nad ydych yn gymwys i gael ein cefnogaeth, gallwch drefnu ac ariannu eich gofal eich hun. Os ydych yn gwneud penderfyniadau ar ran rhywun arall, mae angen i chi fod yn siŵr bod gennych yr hawl i wneud hynny.

Dod o hyd i weithiwr gofal drosoch eich hun

Gallwch ddod o hyd i weithiwr gofal drwy asiantaeth, neu drwy gyflogi rhywun yn uniongyrchol. Mae'n bwysig bod yn glir ynghylch y math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn canfod a all asiantaeth neu unigolyn penodol fodloni eich anghenion.

Asiantaethau cyflogaeth

Mae hefyd yn bosibl trefnu gofalwyr yn y cartref 24 awr y dydd drwy asiantaethau gofal. Mae’n rhaid i asiantaethau sy'n darparu nyrsys neu weithwyr gofal sy'n cyflawni tasgau gofal personol fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Trafodwch gyda'r asiantaeth sut y gellir bodloni eich anghenion orau. Er enghraifft, yn dibynnu ar y lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, efallai na fydd yn bosibl i un person ddarparu’r cyfan. Gall rota o weithwyr helpu i leihau aflonyddwch a darparu dilyniant.

Cyflogi gweithiwr cefnogi yn uniongyrchol

Gallwch gyflogi gweithiwr cefnogi (neu gefnogaeth arall) yn uniongyrchol yn hytrach na mynd drwy asiantaeth. Fodd bynnag, gall hyn fod yn gymhleth ac mae'n bwysig bod yn glir ynghylch yr hyn rydych yn ymgymryd ag ef, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw gontract cyflogaeth ac ymrwymiadau ariannol posibl fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Efallai y byddwch yn ystyried hysbysebu mewn papurau newydd neu gylchgronau. Efallai y gall eich llyfrgell gyfeirio leol awgrymu cyhoeddiadau addas. Os byddwch yn hysbysebu am weithiwr cefnogi, fe'ch cynghorir i ddefnyddio rhif blwch yn hytrach na'ch cyfeiriad cartref, a hefyd i fanteisio ar eirdaon. Dylech ystyried y dyletswyddau sy’n ofynnol gan yr unigolyn yn ofalus ac ysgrifennu swydd-ddisgrifiad, fel nad oes unrhyw gamddealltwriaeth gan y naill unigolyn neu’r llall ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt.

Addasu'ch cartref

Gallech gael help gyda chostau addasu eich cartref, i'w gwneud yn haws i chi fyw'n annibynnol. Gallai hyn olygu newid eich ystafell ymolchi neu gyfleusterau toiled, gan eich helpu i fynd i mewn ac allan o'ch cartref a’i gwneud yn haws i fynd i fyny ac i lawr y grisiau.

Taliadau Uniongyrchol

Os ydych wedi cael asesiad sy'n dangos eich bod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol, efallai y byddai'n well gennych drefnu eich gwasanaethau eich hun yn hytrach na bod y Cyngor yn gwneud hyn ar eich rhan. Gelwir hyn yn 'Daliadau Uniongyrchol'.

Mae Taliadau Uniongyrchol yn caniatáu mwy o ddewis a rheolaeth dros eich gwasanaethau ac mae'n rhoi cyfle i chi fyw mor annibynnol â phosibl.

end content