Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Help i Blant


Summary (optional)
start content

Mae cam-drin plant yn gallu digwydd mewn gwahanol ffyrdd ond tydi o byth yn iawn.  Yn aml, mae pobl yn cam-drin eraill gan eu bod nhw eisiau pŵer a rheolaeth drostyn nhw, ond mae’n bwysig cofio nad ti sydd ar fai na dim wyt ti wedi’i wneud.

Os wyt ti’n teimlo dy fod ti’n cael dy gam-drin, mae’n bwysig dy fod ti’n dweud wrth rywun.  Gallai’r person yma fod yn rhywun yn dy deulu, athro neu athrawes, gweithiwr cymdeithasol, yr Heddlu neu rywun arall rwyt ti’n ymddiried ynddo.  Bydd y person hwnnw’n dy helpu di i ddelio efo beth bynnag sy’n digwydd.

Gallai’r cam-drin fod yn digwydd gartref, neu yn rhywle arall lle rwyt ti’n treulio amser.  Gallai fod yn digwydd pan wyt ti’n defnyddio’r we neu dy ffôn symudol.

Mae ’na sefydliadau a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth a help i ti.  Dyma eu gwefannau nhw:


Cysylltu â ni
Os hoffet ti roi gwybod i’r Adran Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy am gam-drin, rwyt ti’n gallu gwneud hyn drwy ein ffonio ni ar 01492 575111 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu ar 0300 123 3079 ar unrhyw adeg arall.

end content