Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Stopio cosbi corfforol yng Nghymru


Summary (optional)
Ar 21 Mawrth 2022 newidiodd y gyfraith yng Nghymru. Mae hi bellach yn anghyfreithlon i gosbi plant yn gorfforol. Dyma rai ffyrdd eraill o ddelio â’ch plant.
start content

Rydym yn gwybod y gall fod yn heriol ymdopi â holl ofynion o fod yn rhiant. Nid yw bywyd teuluol bob amser yn hawdd.

Rhywbeth i roi cynnig arni os ydych ar ben eich tennyn!

  • Sicrhewch fod eich plentyn mewn lle diogel.
  • Cofiwch mai chi yw’r oedolyn
  • Crëwch ymyrraeth i dawelu’r sefyllfa neu cerddwch i ffwrdd o’r ffrae.
  • Cymerwch anadl ddofn. Cyfrwch i 50 neu adroddwch yr wyddor - rhywbeth i ganolbwyntio eich meddwl!
  • Ymestyn - mae ymarfer corff yn wych ar gyfer rhyddhau straen.
  • Gwnewch baned ac ymlaciwch.
  • Canmolwch eich hunan am beidio â tharo.
  • Cofiwch y pethau arbennig am eich plentyn a siaradwch amdanynt wedyn.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn am help. Ffoniwch ffrind, berthynas neu dîm Bywyd Teuluol Conwy.
  • Mae’n bwysig cymryd 5 munud, oherwydd os fyddwch yn cynhyrfu gormod, byddwch yn gwneud y sefyllfa’n waeth.
  • Stopiwch, anadlwch ac ymatebwch yn bwyllog.
  • Mae llawer o gymorth ar gael ar gyfer teuluoedd a syniadau ar gyfer rhieni ar ffyrdd eraill o osod ffiniau ar gyfer plant.
  • Darllenwch ein taflen:  Gwnewch bethau'n bositif - Awgrymiadau yn hytrach na tharo plant (PDF, 775KB)

Beth am ymweld â’r tudalennau gwe hyn i gael rhagor o syniadau:


Os welwch chi blentyn yn cael eu cosbi’n gorfforol, neu os ydych chi’n bryderus am blentyn, cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol ar 01492 575111 neu ffoniwch 999 os yw’r plentyn mewn perygl uniongyrchol.

end content