Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Swyddogion Adolygu Annibynnol


Summary (optional)
Rhaid i bob plentyn yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gael Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) wedi’i ddyrannu iddynt. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol o dan a.118 Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
start content

Beth yw Swyddog Adolygu Annibynnol?

Eu rôl yw goruchwylio achos plentyn a sicrhau bod buddiannau plentyn yn cael eu diogelu trwy gydol eu hamser mewn gofal.

Swyddogion Adolygu Annibynnol

Rhaid i bob plentyn yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gael Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) wedi’i ddyrannu iddynt. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol o dan a.118 Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae Swyddog Adolygu Annibynnol yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol a gyflogir gan y Cyngor ond yn annibynnol ar y Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu. Eu rôl yw goruchwylio achos plentyn a sicrhau bod buddiannau plentyn yn cael eu diogelu trwy gydol eu hamser mewn gofal.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi mai prif swyddogaeth Swyddog Adolygu Annibynnol yw:

Sicrhau bod cynllun gofal y plentyn yn adlewyrchu anghenion cyfredol y plentyn yn llawn, a bod y camau gweithredu a nodir yn y cynllun yn gyson â chyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod lleol tuag at y plentyn.

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn crynhoi'r hyn y dylai plant ei ddisgwyl gan eu Swyddog Adolygu Annibynnol:

Mae plant wedi datgan y dylai Swyddogion Adolygu Annibynnol wrando ar blant, gwneud yn siŵr eu bod yn hapus gyda'u cynlluniau, sicrhau bod eu barn yn cael llais a bod eu cynlluniau yn cael eu dilyn, a bod yn ddigon grymus i wneud rhywbeth am y peth os nad ydynt yn cael eu dilyn. Maent wedi gofyn i’r Swyddogion Adolygu Annibynnol gadw mewn cysylltiad â phob plentyn maent yn eu cefnogi rhwng cyfarfodydd adolygu, gweld y plentyn un-i-un, cadw llygad ar ofal y plentyn ac esbonio penderfyniadau pwysig

Mae'r ddeddfwriaeth yn gosod nifer o gyfrifoldebau penodol ar Swyddogion Adolygu Annibynnol. Bydd Swyddogion Adolygu Annibynnol yng Nghonwy yn sicrhau eu bod yn gwneud y canlynol:

• hyrwyddo llais y plentyn;
• sicrhau bod cynlluniau plant sy’n derbyn gofal yn seiliedig ar asesiad manwl a llawn gwybodaeth, yn gyfoes ac yn effeithiol, ac yn darparu ymateb real a gwirioneddol i anghenion pob plentyn;
• gwneud yn siŵr bod y plentyn yn deall sut y gallai eiriolwr helpu a hawl y plentyn i gael un;
• cynnig cam diogelwch i atal unrhyw gynllunio gofal a chefnogi rhag crwydro a darparu gwasanaethau iddynt; a
• monitro gweithgarwch yr awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol wrth sicrhau bod cynlluniau gofal wedi rhoi ystyriaeth briodol a phwysau i ddymuniadau a theimladau'r plentyn, a bod y plentyn yn deall yn llawn, lle bo'n briodol

Dolenni Cyswllt Defnyddiol:

Eiriolaeth

TGP Cymru – Gwasanaeth Eiriolaeth Gogledd Cymru

https://www.tgpcymru.org.uk/

Facebook: TGPCymru

Twitter: @TGPCymru

Children’s Commissioner

https://www.complantcymru.org.uk/

Facebook: childcomwales

Twitter: @complantcymru

end content