Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Datblygu Gwydnwch mewn Plant a Phobl Ifanc: Sgiliau Uwch


Summary (optional)
Er gwaethaf eu profiadau mae gan blant gwydn gymaint o botensial ag unrhyw un arall.  Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar yr hyn yr ydym yn gwybod sy’n gweithio, gyda datblygiadau mewn Niwrowyddoniaeth a chynnig technegau datblygu gwydnwch ymarferol i ymarferwyr ei ddefnyddio o fewn eu hymyrraeth gyda phlant a phobl ifanc.
start content

Manylion y cwrs

Dyddiad AmserLleoliad Grŵp targed

20 Mai 2024

9:30am tan 4:30pm  Coed Pella, Bae Colwyn Gwasanaethau targed:  Pob sector

Grŵp targed:  Ymarferwyr, Deilwyr Achos yn gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, Gofalwyr Maeth sydd wedi Cwblhau Datblygu Gwydnwch mewn Plant a Phobl Ifanc Sesiwn Hanner Diwrnod o fewn y 2 flynedd ddiwethaf

25 Tachwedd 2024

9:30am tan 4:30pm Coed Pella, Bae Colwyn Gwasanaethau targed:  Pob sector

Grŵp targed:  Ymarferwyr, Deilwyr Achos yn gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, Gofalwyr Maeth sydd wedi Cwblhau Datblygu Gwydnwch mewn Plant a Phobl Ifanc Sesiwn Hanner Diwrnod o fewn y 2 flynedd ddiwethaf

 

Nodau ac amcanion y cwrs

  • Deall sut mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn newid system nerfol plentyn ac yn eu gwneud yn fwy bregus i straen.
  • Ystyried ffyrdd y gall y profiadau bywyd cynnar hyn newid sut mae person ifanc yn ystyried ei hun, pobl eraill a’r byd o’u cwmpas.
  • Adolygu Parthau Model Gwydnwch.Cynnwys yr holl elfennau i gynnal ymyrraeth datblygu gwydnwch wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn i gynnwys:
  • Dulliau i helpu plant ddysgu nodi, rheoleiddio a mynegi emosiynau.
  • Helpu plant gyda meddylfryd anhyblyg i ddatblygu dulliau mwy hyblyg o feddwl.
  • Archwilio ffyrdd o annog canolbwynt yn y dyfodol gyda phobl ifanc.
  • Annog plant i allu cael mynediad a gofyn am gymorth a chefnogaeth.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.

Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content