Manylion y cwrs:
O safbwynt gofalwyr maeth, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn aml yn y grŵp oedran sy’n cyflwyno’r heriau mwyaf pan fyddant yn eu gofal. Mae’n bosibl bod y person ifanc wedi derbyn gofal ers pan oedd yn blentyn hŷn, neu wedi profi lleoliadau niferus; y cyfan yn cymhlethu eu teimladau a’u hymddygiad.
Mae blaenlencyndod hefyd yn amser o gynnydd datblygiad sylweddol, gydag ad-drefnu radical yn yr ymennydd a materion o amgylch datblygu gwahanu, grym, ymreolaeth ac annibyniaeth. Mae hyn yn cyflwyno heriau i bob rhiant o amgylch arweiniad a ffiniau. Fodd bynnag, pan mae person ifanc yn ei arddegau hefyd yn profi trawma datblygiadol a diffygion datblygiadol a ddaw yn sgil hyn, mae holl nodweddion a heriau blaenlencyndod yn enfawr ac wedi’i gymhlethu. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddylunio i helpu gofalwyr maeth adlewyrchu ar rai o’r themâu hyn ac ystyried ffyrdd y gallant gefnogi ac ymateb i’r bobl ifanc i ennill eu hymddiriedaeth a chydweithrediad.
Nodau ac Amcanion y Cwrs:
Canlyniadau dysgu
- Deall datblygiad ymennydd pobl ifanc, oed aeddfedrwydd ac effaith ar faterion ymddygiad cymryd risg, pŵer, ymreolaeth a rheolaeth.
- Deall pwysigrwydd datblygiad cymdeithasol a chyflwyno mewn blaenlencyndod.
- Deall effaith trawma ar brosesu gwybodaeth, canfyddiad a materion grym
- Arwyddocâd dynamig grym mewn perthnasoedd dynol
- Pwysigrwydd sut y gall grym gael ei reoli gan rieni/gofalwyr drwy ddatblygiad parhaus plentyn
- Archwilio ein perthynas ein hunain gyda grym a rheolaeth
- Archwilio ystod o sgiliau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i gynnal perthynas, er enghraifft trafod rheolau a ffiniau
- Ffyrdd o ymateb yn wyneb ymddygiad gwrthwynebol, dicter neu gymhellol sy’n galluogi’r gofalwr maeth a’r person ifanc i deimlo grym a fydd yn ennill cydweithrediad.
- Archwilio sut i helpu pobl ifanc i reoli trawsnewid a chael mynediad i gefnogaeth briodol.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.