Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Treth y Cyngor Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor - Cymru

Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor - Cymru


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor – Cymru

O 1 Ebrill 2022, mae Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor newydd yn dod i rym yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod trothwyon enillion ar gyfer cyfrifo symiau adenilladwy yn amrywio am y tro cyntaf rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd trothwyon newydd Cymru’n berthnasol i unrhyw orchmynion newydd Cymru a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2022 neu wedi hynny.

Tabl Wythnosol

Enillion Net (Gorchmynion Cymru) o 01 Ebrill 2022Cyfradd Ddidyniadau (%) 
Heb fod yn fwy na £105 0
Yn fwy na £105 ond heb fod yn fwy na £190 3
Yn fwy na £190 ond heb fod yn fwy na £260 5
Yn fwy na £260 ond heb fod yn fwy na £320 7
Yn fwy na £320 ond heb fod yn fwy na £505 12
Yn fwy na £505 ond heb fod yn fwy na £715 17
Yn fwy na £715 17 ar y £715 cyntaf a 50 ar enillion net dros hynny 

 

Tabl Misol

Enillion Net (Gorchmynion Cymru) o 01 Ebrill 2022Cyfradd Ddidyniadau (%) 
Heb fod yn fwy na £430 0
Mwy na £430 ond heb fod yn fwy na £780 3
Mwy na £780 ond heb fod yn fwy na £1,050 5
Mwy na £1,050 ond heb fod yn fwy na £1,280 7
Mwy na £1,280 ond heb fod yn fwy na £2,010 12
Mwy na £2,010 ond heb fod yn fwy na £2,860 17
Mwy na £2,860 17 ar y £2,860 cyntaf a 50 ar enillion net dros hynny

 

Canllawiau i Gyflogwyr

Os ydych yn gyflogwr ac mae’r llysoedd wedi cysylltu â chi gyda chyfarwyddyd Atafaelu Enillion, mae Canllaw Cyflogwr Gorchymyn Atafaelu Enillion ar gael yn gov.uk pe baech angen cymorth pellach.

Tâl Gweinyddol

Sylwer: ni ellwch ddidynnu’r tâl gweinyddol o £1 os yw’n gwneud incwm eich cyflogai’n is na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Y mae’n drosedd i gyflogwyr beidio â thalu Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw Cenedlaethol i rywun.

Dylai cyflogwyr ddarllen 'The National Minimum Wage and Living Wage' neu gysylltu â llinell gymorth ACAS ar 0300 123 1100 am gyngor.

.

end content