Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Treth y Cyngor Asiantau Gorfodi

Asiantau Gorfodi


Summary (optional)
start content

Os nad ydych wedi gwneud trefniant i dalu Treth y Cyngor, mae gennym y pŵer i ddefnyddio asiant gorfodi i gasglu'r ddyled.

Os nad ydych wedi gwneud trefniant priodol i dalu eich Treth y Cyngor, mae gennym y pŵer i ddefnyddio asiant gorfodi i gasglu'r ddyled. Ar y pwynt hwn, bydd yn rhaid i chi drefnu taliadau gyda’r asiant gorfodi. Bydd hyn yn ychwanegu mwy o gostau ar y swm sy'n ddyledus.

Ffioedd Asiant Gorfodi

Cyfnod Cydymffurfio: Mae £75.00 yn cael ei ychwanegu at bob gorchymyn atebolrwydd cyn gynted ag y caiff ei drosglwyddo i’r Asiant Gorfodi. Mae'n rhaid i chi dalu’r ffi cyn talu’r ddyled.

Cyfnod Gorfodi: £235.00. Os yw’r ddyled yn fwy na £1500, codir 7.5% arnoch o werth y ddyled sydd dros £1,500. Mae'r ffi yn daladwy ar yr ymweliad cyntaf i'ch eiddo.

Cyfnod Gwerthu neu Waredu: £110. Os yw’r ddyled yn fwy na £1500, codir 7.5% arnoch o werth y ddyled sydd dros £1,500. Mae'r ffi yn daladwy ar yr ymweliad cyntaf i gael gwared ar eich nwyddau.

Gall yr Asiant Gorfodi hefyd adennill ffioedd a achoswyd yn rhesymol megis costau storio nwyddau a ffioedd saer cloeon.

Sut i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych chi

Taliad Ar-lein: Dewiswch Gorfodi Conwy a sicrhewch fod eich cyfeirnod 9 digid gorfodi gennych.

Llinell dalu awtomataidd dros y ffôn – Ar gael bob awr o'r dydd. Ffoniwch 0300 5000 955, a dewiswch opsiwn 8 ar gyfer Gorfodi Conwy. Byddwch angen eich cyfeirnod 9 digid gorfodi.

BACS – Dyma ein manylion banc;

Cod Didoli: 20-51-49
Rhif y Cyfrif: 60051098
Enw'r Cyfrif: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Defnyddiwch eich cyfeirnod gorfodi 9 digid fel eich cyfeirnod talu.

Os hoffech gynnig gwneud taliad:

Sut y gallwch gysylltu â'r Swyddfa’r Asiant Gorfodi

Gorfodi Conwy
PO Box 1                  
Conwy
LL30 9GN
Ffôn: 01492 01492 576614
E-bost: gorfodaeth.conwy@conwy.gov.uk 


Hysbysiad Preifatrwydd Asiantiaid Gorfodi

end content