Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Treth y Cyngor Diweddariad Premiymau Treth y Cyngor

Diweddariad Premiymau Treth y Cyngor


Summary (optional)
start content

Premiymau Treth y Cyngor

Rhoddir rhybudd trwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn ei gyfarfod ar 19 Hydref 2023, yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y’i cynhwysid gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, wedi penderfynu’r canlynol: 

(i)  Cymeradwyo’r penderfyniad i godi Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gweigion hirdymor o 1 Ebrill 2024 ymlaen, ac

(ii)  Argymell lefel fynegol o bremiwm o 200% ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor o 1 Ebrill 2025, gan gyflwyno premiwm uwch o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag ers 5 mlynedd neu fwy, yn amodol ar adolygiad yn ystod 2024/2025.


Adran 12A: swm uwch ar gyfer anheddau gwag hirdymor

At ddiben yr adran hon, caiff annedd wag hirdymor ei diffinio fel annedd nad yw'n cael ei meddiannu ac sydd heb fawr o ddodrefn am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf.

Adran 12B: swm uwch ar gyfer anheddau a feddiannir yn gyfnodol

At ddiben yr adran hon, caiff ail gartref ei ddiffinio fel annedd nad yw'n unig neu brif gartref person ac sydd wedi'i dodrefnu'n sylweddol. Mae Deddf 1992 yn cyfeirio at yr anheddau hyn fel anheddau a feddiannir yn gyfnodol ond cyfeirir atynt yn gyffredin fel ‘ail gartrefi’.

Eithriadau


Gall rhai eiddo hawlio eithriad o'r premiymau Treth y Cyngor:

Dosbarth 1 - eiddo sy’n cael eu marchnata fel rhai ar werth  - gyda therfyn amser - un flwyddyn

Dosbarth 2 - eiddo sy’n cael eu marchnata fel rhai ar osod – gyda therfyn amser - un flwyddyn

Dosbarth 3 - anecsau sy’n ffurfio rhan o’r prif eiddo

Dosbarth 4 - eiddo a fyddai’n brif gartref rhywun heblaw ei fod yn aros yn llety’r Lluoedd Arfog

Dosbarth 5 - carafanau ac angorfeydd cychod wedi'u meddiannu

Dosbarth 6 – cartrefi tymhorol neu lety gwyliau nad oes modd eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn neu'n barhaol

Dosbarth 7 - eiddo cysylltiedig â gwaith


Premiymau Treth y Cyngor - incwm a gwariant

Sut mae’r arian a gesglir o bremiwm Treth y Cyngor yng Nghonwy yn cael ei wario? 

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23

Mae nifer yr eiddo sy’n talu premiwm wedi ei nodi isod:

Eiddo gwag hirdymor = 679 (680 yn 2021/22)

Eiddo wedi eu dodrefnu nad ydynt yn unig neu brif breswylfa unigolyn (a elwir gan amlaf yn ail gartrefi) = 1,528 (1432 yn 2021/22)

Cyfanswm yr incwm a gynhyrchwyd ar gyfer y ddau ddosbarth o eiddo fel y diffiniwyd uchod = £822,000

Er bod potensial i godi’r Premiwm i gynhyrchu refeniw ychwanegol, fe’i bwriedir i fod yn offeryn ar gyfer:

  • Rhoi defnydd newydd i Gartrefi Gwag Hirdymor
  • Cynyddu cyflenwad tai fforddiadwy
  • gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
  • Helpu i ddiwallu anghenion lleol o ran tai

Mae incwm ychwanegol a geir wrth godi premiwm Treth y Cyngor, yn unol â disgwyliad Llywodraeth Cymru, yn cael ei gyfeirio at gyllideb dai y Cyngor ac felly’n cefnogi ein blaenoriaeth gorfforaethol ‘Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd’.

Am fwy o wybodaeth:

end content