Bydd ffioedd newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig yn dod i rym ar 24 Awst 2020
Mae manteision gwneud cais ar-lein yn cynnwys:
- Gallwch weithio ar eich ceisiadau ar ffurf drafft cyn eu cyflwyno
- Cyflwyno a chydnabyddiaeth ar unwaith
- Arbedion ar gostau postio ac argraffu
- Swyddogaeth cymorth ar-lein wrth lenwi ceisiadau
- Cofnod ar-lein o'ch ceisiadau sydd wedi’u cwblhau
Os byddai’n well gennych, gallwch lenwi eich ffurflen gais ar-lein a chyflwyno dogfennau ategol a ffioedd drwy'r post.
Noder na ellir symud ymlaen â chais cynllunio nes bod yr holl wybodaeth ategol angenrheidiol a'r ffi briodol wedi dod i law.
Cyflwynwch Gais Cynllunio drwy’r Post
Byddem bob amser yn argymell eich bod yn gwneud cais ar-lein. Ond gallwch hefyd ddefnyddio ein Dewisydd Ffurflen Papur i lawrlwytho ffurflenni i lawr fel dogfennau PDF, gan eich galluogi i’w hargraffu nhw ar gyfer defnydd all-lein.
Os byddai’n well gennych, gallwch lenwi eich ffurflen gais a chyflwyno dogfennau ategol a ffioedd drwy'r post.
Nid yw'r ffurflenni hyn yn rhyngweithiol a bydd angen i chi eu hargraffu er mwyn eu llenwi.
Noder na ellir symud ymlaen â chais cynllunio nes bod yr holl wybodaeth ategol angenrheidiol a'r ffi briodol wedi dod i law.
Newidiadau i ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig (Awst 2020) (PDF)
Ffioedd Ceisiadau Cynllunio ac Ymholiadau Statudol Cyn Cyflwyno Cais 2016 (Conwy) (PDF)