Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Asesiadau Plant a Theuluoedd


Summary (optional)
start content

Wrth Asesu Plentyn a’r Teulu cawn gyfle i ddod i’ch adnabod chi a’ch plentyn yn well. Mae’n ein helpu i benderfynu pa fath o gymorth a fyddai orau i’ch plentyn a'ch teulu. Byddwn yn siarad â chi am y ffordd yr ydych chi’n ymdopi ag unrhyw beth sy’n eich poeni, a sut mae'ch plentyn yn dod ymlaen yn gyffredinol. Byddwn yn siarad â chi am iechyd a datblygiad eich plentyn a sut hwyl mae’n ei gael yn yr ysgol neu’r cylch meithrin.

I gael asesiad gan y Gwasanaethau Plant, cysylltwch â’r Tîm Asesu a Chymorth ar 01492 575111.

Pwy fydd yn cymryd rhan yn yr asesiad?

Yn bennaf, bydd y bobl a fydd yn cymryd rhan yn yr asesiad yn eich cynnwys chi, eich plentyn os yw’n ddigon hen, a’ch Gweithiwr Cymdeithasol. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol hefyd am siarad â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n adnabod eich plentyn, er enghraifft, athro yn yr ysgol neu ymwelydd iechyd.  Gyda’ch caniatâd chi, efallai y byddwn hefyd yn dymuno siarad ag aelodau eraill o'r teulu.

Pa mor hir fydd yr asesiad yn ei gymryd?

Bydd yr asesiad yn addas at y sefyllfa ac fe’i cwblheir ymhen 42 diwrnod (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Gallai gymryd llai o amser na hynny.

A fyddaf i’n cael copi ysgrifenedig o’r asesiad?

Byddwch. Fe gewch chi gopi pan mae'r asesiad wedi'i gwblhau. Mae’n bwysig eich bod yn ei gadw mewn lle diogel, gan y bydd ynddo wybodaeth gyfrinachol am eich teulu. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn medru mynd drwy'r asesiad gyda chi os dymunwch.

Sut cynhelir yr asesiad?

Pan wnewch chi gais am wasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, bydd arnom eisiau dod i wybod mwy am eich teulu a’ch plentyn. Byddwn yn cwrdd â chi o leiaf unwaith i siarad am beth sy’n bwysig i chi, gan gynnwys:

  • Sut mae’ch plentyn yn dod ymlaen.Gallwn holi am iechyd eich plentyn, sut hwyl mae’n ei gael yn yr ysgol, ymddygiad eich plentyn a’r bobl y mae ganddo/ganddi berthynas â nhw;
  • Eich iechyd chi, ac unrhyw drafferthion rydych chi’n eu cael fel rhiant;
  • Eich amgylchiadau chi, er enghraifft, eich incwm, eich tŷ a pha gymorth a gewch chi gan eich teulu.

Ar ôl inni gael yr wybodaeth hon byddwn yn siarad â chi am y ffordd orau y gallwn helpu eich plentyn.  Gallai Gofal Cymdeithasol i Blant gynnig darparu gwasanaethau, neu efallai y byddwn yn eich cyfeirio at sefydliad arall a fydd yn medru helpu. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn siarad â chi am hyn.

Byddwn hefyd yn rhoi copi o’r asesiad i weithwyr proffesiynol eraill, fel eich ymwelydd iechyd ac athro’ch plentyn, yn enwedig os mai nhw oedd wedi gwneud yr atgyfeiriad yn y lle cyntaf.

I gael Asesiad o’ch Plentyn a’ch Teulu gan y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, ffoniwch y Tîm Asesu a Chymorth ar 01492 575111.

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr asesiad?

Wedi cwblhau’r asesiad byddwn yn llunio ‘cynllun gofal a chymorth’ gyda chi. Nodir yn eich cynllun gofal a chymorth beth rydych angen inni ei wneud, a sut fyddwn ni’n ei wneud gyda’n gilydd. O bryd i’w gilydd fe fyddwn ni’n bwrw golwg ar y gwasanaethau’r ydych yn eu derbyn i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fodloni’ch anghenion. Fe fyddwn yn gallu newid y cynllun.

end content