Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth


Summary (optional)
start content

Mae gan bob Cyngor yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd gyfreithiol i gadw rhestr o enwau plant sydd â Chynlluniau Amddiffyn Plant, er mwyn eu diogelu rhag niwed. Mae gan blant bellach Gynlluniau Amddiffyn Gofal a Chymorth os oes arnynt angen eu diogelu a’u hamddiffyn.

Llunnir y Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth ar y cyd gan rieni a gweithwyr proffesiynol. Dylai’r cynllun nodi’r canlyniadau y bwriedir eu cyflawni dros y plentyn, hynny yw, y sefyllfa yn y pen draw y mae pawb yn gweithio tuag ati. Bydd y cynllun yn dweud beth fydd pob aelod o’r grŵp craidd, gan gynnwys y rhieni, yn ei wneud i sicrhau bod y cynllun yn gweithio. Bydd yn nodi hefyd sut fydd pawb yn gwybod os yw’r cynllun wedi’i gyflawni, a beth i'w wneud os aiff rhywbeth o'i le.

Pwy fydd yn gwybod fod gan blentyn Gynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth?

Ni chaiff yr wybodaeth ei rhannu ond â’r aelodau o staff a’r asiantaethau sydd angen gwybod, er mwyn cadw’r plentyn yn ddiogel.

Beth ydy grŵp craidd?

Mae’r grŵp craidd yn cynnwys y rhieni, y plentyn neu’r person ifanc (os yw'n bosib) a'r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio â’r plentyn yn uniongyrchol, fel ymwelwyr iechyd ac athrawon. Gweithiwr cymdeithasol y plentyn sy’n arwain y grŵp craidd.

Bydd y grŵp craidd yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn:

  • Cynllunio’r asesiad fel y bo’n briodol a’i gynnal
  • Datblygu a gwella'r Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth ar sail yr wybodaeth o’r asesiad
  • Sicrhau bod y Cynllun yn dal i gadw'r plentyn yn ddiogel.


Am ba hyd mae Cynlluniau Amddiffyn Gofal a Chymorth yn para?

Yng Nghonwy, adolygir Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth pob plentyn yn gyson mewn cynadleddau amlasiantaethol. Bydd aelodau’r grŵp craidd yn gweithio gyda theuluoedd i sicrhau nad oes yr un Cynllun yn para’n hwy nag sydd angen.

Beth yw Cynhadledd Adolygu Amddiffyn Plant?

Cyfarfod ffurfiol yw hwn lle bydd pawb sy'n rhan o'r sefyllfa'n bresennol, dan arweiniad Cadeirydd Annibynnol. Pan fydd plentyn yn cael Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth, cynhelir cynadleddau adolygu Amddiffyn Plant yn rheolaidd. Wrth adolygu gellir sicrhau bod y Cynllun yn dal i gadw'r plentyn yn ddiogel. Bydd yr adolygiad yn ystyried a gyflawnwyd y canlyniadau gwreiddiol a gytunwyd yn y Gynhadledd Amddiffyn Plant gychwynnol. Pan mae'r canlyniadau hynny wedi’u cyflawni, gellir dod â Chynllun y plentyn i ben. Os na chyflawnwyd y canlyniadau, yna gallai’r Cynllun barhau a chael ei ailasesu.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth neu esboniad ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Gynlluniau Amddiffyn Gofal a Chymorth, holwch eich gweithiwr cymdeithasol.

end content