Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Rwy'n poeni am rywun Rhoi Gwybod am Blentyn mewn Perygl Beth sy'n digwydd os oes rhywun yn pryderu am fy mhlentyn i?

Beth sy'n digwydd os oes rhywun yn pryderu am fy mhlentyn i?


Summary (optional)
start content

Beth sy’n digwydd os oes rhywun yn pryderu am fy mhlentyn i?

Fel arfer byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydyn ni wedi’i glywed, ac yn siarad â chi a’ch plant i ganfod a ydy hynny’n wir. Os ydyn ni’n meddwl fod rhywun wedi torri’r gyfraith, ni fydd yn bosib inni siarad â chi gyntaf bob tro.

Fyddwch chi’n rhoi gwybod i mi pwy gysylltodd â chi ynglŷn â fy mhlentyn?

Byddwn, os yw’r person dan sylw yn athro, meddyg neu weithiwr proffesiynol arall. Os mai ffrind, perthynas neu gymydog sydd wedi cysylltu, ni fyddwn bob amser yn rhoi gwybod pwy ydynt.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Fe fyddwn ni’n ceisio dod i adnabod eich teulu, ac efallai y byddwn yn dymuno siarad â'ch plant ar eu pennau eu hunain. Fe fyddwn ni’n siarad â chi am ffyrdd y gallwn helpu i sicrhau bod eich plant yn ddiogel ac yn iach. Gelwir hyn yn Asesiad Plant a Theuluoedd. Fe fyddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd o helpu y bydd pawb yn fodlon arno. Efallai y byddwn yn trefnu Cynhadledd Amddiffyn Plant er mwyn trafod hynny.

Gallwch chithau ofyn cwestiynau ynglŷn â beth allai ddigwydd, a pham. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd siarad am eich teulu, gallwch ofyn am gymorth. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn medru esbonio sut i ddod o hyd i rywun i'ch helpu i fynegi eich hun.

A fedrwch chi fynd â fy mhlentyn oddi wrthyf?

Ni allwn fynd â’ch plentyn oddi wrthoch chi heb Orchymyn Llys, ac os mai dyna'r unig ffordd o'u cadw nhw'n ddiogel. Os byddwn ni’n meddwl fod eich plentyn mewn perygl enbyd, byddwn yn ceisio dod i gytundeb â chi ynglŷn â sut i’w gadw/chadw’n ddiogel.

Nid yw’r heddlu’n medru mynd â’ch plentyn oddi wrthoch chi oni bai eu bod yn sicr fod y plentyn mewn perygl enbyd.

Os oes angen mynd â’r plentyn o’r cartref ar unwaith am ei fod/bod mewn perygl, gallwn wneud cais i Ynad am Orchymyn Amddiffyn Brys. Mae’r gorchymyn hwnnw’n para wyth diwrnod ac mae’n rhoi amser i bawb benderfynu sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel.

Fe fyddwn ni’n ceisio helpu’ch plentyn i fyw gartref cyn belled a bo hynny’n ddiogel. Mae’r rhan fwyaf o blant yn aros gyda’u teuluoedd, hyd yn oed ar ôl cynnal cynhadledd amddiffyn plant. Os ydych chi’n poeni am rywbeth, siaradwch â'ch Gweithiwr Cymdeithasol.

end content